Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad ynglŷn â’i ymchwiliad i ofal newyddenedigol yng Nghymru.
Fe ganfu’r adroddiad fod unedau newyddenedigol yng Nghymru heb ddigon o staff, heb fod â digon o gyfarpar a’u bod yn orlawn. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad fynd i’r afael â’r cyfraddau llenwi uchel – sy’n ddwywaith y lefel a argymhellir ar 140% mewn rhai unedau – a phrinder difrifol o staff.