Mae Adoption UK Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n datgelu bod angen gwneud llawer mwy i gymorth mabwysiadwyr yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio materion allweddol yn ymwneud â chymorth mabwysiadu. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar gymorth ar ôl i’r Gorchymyn Mabwysiadu gael ei wneud gan y llys.
Mae’r adroddiad yn canfod mai er bod gan deuluoedd sy’n mabwysiadu anghenion neilltuol mewn perthynas â gwasanaethau addysgol a therapiwtig, nid yw’r rhain ar gael yn gyson, a bod angen gwneud llawer i wella hygyrchedd, gwybodaeth, prosesau ac adnoddau sydd ar gael i gymorth y teuluoedd hyn.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Adoption UK.