Mae yna adroddiad thematig i’r ffordd y rheolir materion gangiau ymysg plant a phobl ifanc yn nalfa’r carchar ac yn y gymuned wedi’i gyhoeddi.
Fe wnaeth yr adolygiad, a gynhaliwyd fel rhan o gytundeb lefel gwasanaeth gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, archwilio timau troseddau ieuenctid a sefydliadau troseddwyr ifainc i ganfod sut yn ymarferol yr oedd yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth carchardai ar lefel leol yn ymdrin â throseddau yn ymwneud â gangiau sy’n gysylltiedig â phobl ifanc o dan 18 oed. Fe ganfu fod yna, er gwaethaf mentrau canolog, ddiffyg cydgysylltu a diffyg arweiniad eglur ac effeithiol o ran gweithredu lleol.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.