Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r canlyniadau o arolwg i gyffredinolrwydd a nifer yr achosion o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru.
Fe ganolbwyntiodd yr arolwg ar brofiadau disgyblion o fwlio gan ddisgyblion eraill yn ystod eu bywyd ysgol. Fe ganfu’r arolwg fod:
32% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 yn rhoi gwybod am gael eu bwlio o fewn y ddau fis diwethaf, gan godi i 47% a wnaeth roi gwybod am gael eu bwlio yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf;
30% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 yn rhoi gwybod am gael eu bwlio o fewn y ddau fis diwethaf, gan godi i 44% a wnaeth roi gwybod am gael eu bwlio yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf; a
15% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 10 yn rhoi gwybod am gael eu bwlio o fewn y ddau fis diwethaf, gan godi i 25% a wnaeth roi gwybod am gael eu bwlio yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.