Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ymgysylltiad Cymru â Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi 2010.
Fe wnaeth y Pwyllgor gynnal ymchwiliad i ganfod pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wneud y mwyaf o gyfranogiad Cymru yn y Flwyddyn.
Mae’r adroddiad yn argymell bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gynnwys pobl o bob oed a rhanddeiliaid yn y gwaith o gynllunio a darparu gweithgareddau i hyrwyddo’r ymgyrch, fel y gall yr agenda gael ei llunio gan bobl sydd â phrofiad o dlodi.
Mae’r Pwyllgor hefyd eisiau sicrhau bod gweithgareddau yng Nghymru yn gadael etifeddiaeth fel y gall Cymru gael ei defnyddio fel patrwm i ranbarthau eraill yr UE ar gyfer Blynyddoedd Ewropeaidd ar wahanol bynciau yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.