Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno ar archwiliad o gartrefi plant, a gynhelwyd ym mis Ionawr a Chwefror 2010.
Pwrpas yr archwiliad oedd i weld y camau a gymerwyd i fodloni’r gofynion statudol o dan Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002, ac i nodi unrhyw rwystrau neu broblemau posibl.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.