Hwn yw ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i argymhellion y Tasglu Oriau Gweithio sy’n Ystyriol o Deuluoedd.
Mae’r Llywodraeth yn croesawu argymhellion y Tasglu. Mae’r ymateb yn amlinellu strategaeth ar gyfer marchnad lafur hyblyg, ac mae’n amlinellu sut mae’r llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â’r argymhellion a gynigiwyd gan y Tasglu yn eu hadroddiad, "Gweithio hyblyg: gweithio i deuluoedd, gweithio i fusnes".
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.