Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Adran Iechyd wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol yn edrych ar effeithiolrwydd rheolaethau ar hysbysebu fformiwla ddilynol.
Yn 2007, fe wnaeth y Gweinidog Gwladol ar y pryd dros Iechyd Cyhoeddus, Dawn Primarolo, gyhoeddi rheoliadau newydd ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol. Diben yr adolygiad hwn oedd asesu a yw’r rheolaethau newydd ar y ffordd y mae fformiwla ddilynol yn cael ei chyflwyno a’i hysbysebu wedi bod yn effeithiol gyda gwneud yn eglur i rieni/darpar rieni a gofalwyr bod hysbysebion ar gyfer fformiwla ddilynol ond i fod ar gyfer babanod dros chwe mis, ac nad ydynt i’w hystyried fel neu’u drysu gyda hysbysebion fformiwla fabanod, sy’n rhywbeth a waherddir.
Fe ganfu’r Adolygiad fod y rheolaethau’n cael yr effaith y dymunwyd iddynt eu cael i raddau pell, ond nid yw rhai hysbysebion bob amser yn cael eu deall yn eglur fel hysbysebion dros fformiwla ddilynol yn hytrach na fformiwla fabanod.
Mae’r Adolygiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.