Y mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’i adroddiad Cam 1 y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru).
Diben y Mesur arfaethedig yw creu, am y tro cyntaf, fframwaith deddfwriaethol cydlynol ar dlodi ymysg plant ledled yr holl asiantaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn seiliedig ar dystiolaeth oddi wrth randdeiliaid, y mae’r Pwyllgor yn cytuno bod yna angen am y ddeddfwriaeth hon. Y mae’n argymell y dylid datblygu canllawiau i fynd gyda gweithredu’r Mesur arfaethedig.
Y mae’r adroddiad hwn ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Fe ellir aelodau Plant yng Nghymru lawrlwytho cyfarwyddiad ar y Mesur arfaethedig oddi ar adran aelodau'r gwefan hon.