Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wedi lansio adroddiad ar ofalwyr ifanc yng Nghymru a ysgrifennwyd ganddyn nhw eu hunain.
Bywyd Llawn Gofal yw ffrwyth gwaith ymchwil cenedlaethol uchelgeisiol a wnaed gan Ofalwyr Powys ar ran Comisiynydd Plant Cymru.
Bu tîm y prosiect, dan arweiniad rhai sydd eu hunain yn ofalwyr ifanc, yn casglu barn a safbwyntiau gan 19 o’r 22 prosiect gofalwyr ifanc yng Nghymru er mwyn dod o hyd i’r prif rwystrau mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu o ran gwireddu eu hawliau, a gyflwynwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan gynnwys eu hawl i addysg, i ymlacio a chwarae, ac i gael parchu eu barn.
Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol:
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.