Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad ar dlodi plant ac addysg.
Darganfyddodd y Pwyllgor er bod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru lawer o syniadau da a pholisïau arloesol, dim ond ychydig o dystiolaeth sydd fod polisïau ystyrlon, strategol a chydlynol i fynd i’r afael â thlodi plant.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n arbennig ar bortffolio addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn galw am strategaeth gydlynol i gynorthwyo ysgolion a darparwyr addysg i frwydro yn erbyn effeithiau tlodi plant. Yn y dyfodol, mae’r pwyllgor hefyd yn bwriadu craffu ar gynnydd portffolios Gweinidogion eraill o ran bodloni'r targedau sydd ganddynt i gael gwared ar dlodi plant.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.