Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi cyfres newydd o safonau ansawdd ar gyfer plant byddar a phlant sydd â nam ar eu clyw yng Nghymru.
Mae’r Safonau Ansawdd Awdioleg Bediatrig (Cymru) wedi’u cynllunio i weithio ar y cyd â’r canllawiau presennol, gan ymdrin â phob agwedd o wasanaethau, yn cynnwys mynediad iddynt a’r daith i’w chymryd drwy’r gwasanaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.