Diwedd yr ymgynghoriad: 13/06/08
Y mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi lansio ymgynghoriad tri mis ar Strategaeth Amgylchedd ac Iechyd Plant ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Y mae’r Cynllun Gweithredu Amgylchedd ac Iechyd Plant ar gyfer Ewrop (CEHAPE) yn fenter o dan arweiniad Swyddfa Ranbarthol Ewrop o eiddo Sefydliad Iechyd y Byd. Fe’i lansiwyd ym mis Mehefin, 2004 ac fe’i llofnodwyd gan yr holl aelod-wladwriaethau (ar hyn o bryd 53 o wledydd), yn cynnwys y Deyrnas Unedig. Nod y Cynllun Gweithredu Amgylchedd ac Iechyd Plant ar gyfer Ewrop yw diogelu iechyd plant a phobl ifanc rhag peryglon amgylcheddol.
Y mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi’i chomisiynu gan yr Adran Iechyd, ar ran y Grŵp Llywio Rhyngadrannol ar yr Amgylchedd ac Iechyd, i arfarnu iechyd amgylcheddol plant yn y Deyrnas Unedig ac i ddatblygu argymhellion ynglŷn â’r ffordd orau y gall y DU ddiwallu’i hymrwymiadau o dan y Cynllun Gweithredu Amgylchedd ac Iechyd Plant ar gyfer Ewrop a diogelu rhagor ar iechyd plant.
Y mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd