Diwedd yr ymgynghoriad: 17/09/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’r Rheoliadau arfaethedig ynghylch Maethu Preifat (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 fydd yn dod i rym ar y 1af o Ragfyr, ac fe fydd yn dirymu Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004.
Mae’r rheoliadau 2010 yn cyflwyno categorïau ychwanegol i’w hystyried wrth anghymhwyso unigolyn rhag maethu plentyn yn breifat o dan Ddeddf Plant 1989:-
Fe fydd y categorïau ychwanegol sy’n arwain at anghymhwyso yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn pan fo troseddau cyfwerth yn cael eu cyflawni dramor a phan fo troseddau cyfwerth o dan statudau wedi’u diddymu.
Am ragor o wybodaeth, a fyddech cystal â lawrlwytho’r dogfennau ymgynghori.
Llythyr Ymgynghori
Rheoliadau Maethu Preifat (Anghymhwyso) (Cymru) 2010.