Diwedd yr ymgynghoriad: 02/11/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig sy'n deillio o argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Leoli Oedolion.
Yn dilyn achos lle cafodd plant gofalwr yn y cynllun lleoli oedolion eu cam-drin gan rywun oedd wedi'i leoli gyda'r teulu, sefydlodd y Dirprwy Weinidog y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Leoli Oedolion. Cylch gorchwyl y grŵp oedd ystyried a oedd angen diwygio'r gyfundrefn reoleiddio a'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer lleoli oedolion o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, a llunio adroddiad ar sail hynny. Mae'r newidiadau yr oedd y grŵp yn eu hargymell bellach yn destun ymgynghoriad.
Fe ellir lawrlwytho’r dogfen ymgynghori oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.