Diwedd y cyfnod ymgynghori: 14/09/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â Chanllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2010 a Chanllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14.
Canllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14: Mae’r canllawiau hyn wedi’u paratoi o dan adrannau 25-28 Deddf Plant 2004. Mae’r rhain yn mynnu bod awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol yn cydweithio ledled yr ystod o swyddogaethau i wella lles. Mae hefyd yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc.
Canllawiau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles : Mae’r canllawiau hyn wedi’u paratoi i gynorthwyo awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i gyflawni’u dyletswydd statudol o dan Adran 40 Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 2006 i baratoi strategaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar gyfer pob un ardal awdurdod lleol.
Fe ddylid darllen y Canllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc ar y cyd â’r Canllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Fe ddylid ystyried y ddwy ddogfen wrth ymateb i’r ymgynghoriad.