Diwedd yr ymchwiliad: 03/09/10
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 ar hyn o bryd yn ystyried Mesur arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru), ac mae’n gwahodd barn oddi wrth aelodau’r cyhoedd a grwpiau sydd â buddiant.
Fe fydd Mesur arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) yn gorfodi adeiladwyr tai i osod chwistrellwyr dŵr awtomatig mewn tai newydd sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth, a fyddech cystal â mynd i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.