Diwedd yr ymgynghoriad: 27/08/10
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru).
Mae’r Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac ar Brif Weinidog Cymru i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol, wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynglŷn â sut i ymarfer swyddogaethau sy’n arferadwy ganddynt.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.