Diwedd y cyfnod ymgynghori: 10/09/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynigon i ddiweddaru Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004.
Bydd hyn yn ychwanegu dau gategori newydd at y rhestr o bersonau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ond a gaiff gyflawni 'gwaith penodedig' (h.y. addysgu) mewn ysgolion a gynhelir.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.