Mae’r Ymchwiliad yn dirwyn i ben: 10fed o Fedi, 2010.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal ymchwiliad i aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd, ac i weld pa mor dda y mae hyn ar hyn o bryd yn cael sylw gan awdurdodau cyhoeddus.
Maent yn galw am dystiolaeth oddi wrth unrhyw un sydd wedi’i aflonyddu ac oddi wrth sefydliadau sy’n gweithio iddynt/gyda hwynt, yn cynnwys sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, awdurdodau cyhoeddus (megis cynghorau lleol, yr heddlu, gwasanaethau tai, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg) a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.