Diwedd yr ymgynghoriad: 06/09/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymgynghori ar welliannau arfaethedig i’r rheoliadau presennol sy’n rheoli gofal plant i blant o dan 8 mlwydd oed.
Fe wnaeth Rhan 2 y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), a dderbyniodd gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor ym mis Chwefror 2010, ddarpariaethau newydd er mwyn gwella cydlyniaeth ac eglurder deddfwriaeth gofal plant.
Fe wnaeth cyfnod cyntaf canlyniadol y rheoliadau, testun yr ymgynghoriad hwn, amlinellu manylion y darpariaethau hyn yn ymwneud â gweithgareddau gofal plant, cofrestru, gwahardd, cyflenwi gwybodaeth, eithriadau, dyletswydd awdurdodau lleol, ac arolygu.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.