Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru.
Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru a gwella deilliannau i blant a rhieni sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn amlinellu’r gweithredoedd polisi y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn eu cyflenwi i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae yna fersiwn plant a phobl ifanc o’r Strategaeth hefyd wedi’i chynhyrchu. Mae digwyddiadau ymgynghori i fod i gael eu cynnal ledled Cymru.
Fe ragwelir y bydd yna Strategaeth Tlodi Plant a Chynllun Cyflenwi diwygiedig yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod hydref 2010.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru .