Diwedd yr ymgynghoriad: 19/06/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymofyn barn ynglŷn â rheoliadau drafft i’w gwneud o dan Adran 86A Deddf Plant 1989 a chanllawiau statudol, i gryfhau trefniadau ar gyfer plant mewn lleoliadau preswyl dros yr hirdymor nad ydynt yn derbyn gofal.
Mae’r rheoliadau drafft a’r canllawiau statudol yn amlinellu’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol sydd wedi cael eu hysbysu o ran llety i blentyn mewn lleoliad preswyl hirdymor, i wneud trefniadau yn unol â’r rheoliadau er mwyn i’r plentyn gael ymweliad gan gynrychiolydd o’r awdurdod.
Mae’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglŷn â:
(a) amlder yr ymweliadau;
(b) ym mha amgylchiadau yr ymwelir â’r plentyn; ac
(c) unrhyw swyddogaethau ychwanegol sydd gan y cynrychiolydd neu’r ymwelydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.