Diwedd yr ymgynghoriad: 01/07/10
Mae hwn yn ymgynghoriad sy’n ymofyn barn ynglŷn â manylion diwygio’r system crwneriaid yng Nghymru a Lloegr.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn hysbysu’r gwaith o ddrafftio is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan Ran 1 Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009. Mae’n ymofyn barn ynglŷn â naw maes polisi, yn cynnwys: y mathau penodol o farwolaethau y dylid rhoi gwybod i grwneriaid amdanynt; archwiliadau post-mortem; a’r gyfundrefn apelio a chwyno newydd.
Mae’r ymgynghoriad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.