Diwedd yr ymgynghoriad: 16/04/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) (Cymru) 2010.
Mae gofyn i’r Cynulliad basio’r is-ddeddfwriaeth briodol, sef Rheoliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) (Cymru), ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11. Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus cyffredinol, mae’r Cynulliad am gael sylwadau ar y Rheoliadau arfaethedig hyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.