Mae’r ymgynghori’n dirwyn i ben: 28ain o Ebrill, 2010
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’r llwybr gordewdra Cymru gyfan drafft hwn ar gyfer ymgynghori. Mae wedi’i gynhyrchu yn dilyn tystiolaeth sy’n dangos bod y ganran o oedolion a phlant nad ydynt yn cynnal pwysau corff iach yn cynyddu. Fe ganfu Arolwg Carfan y Mileniwm fod 22% o blant Cymru sy’n dair blwydd oed yn ordrwm a bod ychydig dros 5% yn ordew.
Mae’r Llwybr wedi’i fwriadu fel offer i fyrddau iechyd i:
Mae’r llwybr yn cynnwys pedair lefel:
Lefel 1 - Atal ac ymyrraeth gynnar yn y gymuned (hunanofal); Lefel 2 - Gwasanaethau rheoli pwysau drwy ofal cymunedol a sylfaenol; Lefel 3 - Gwasanaethau rheoli pwysau gan dîm amlddisgyblaethol arbenigol; Lefel 4- Gwasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol (yn cynnwys llawdriniaeth bariatrig).
Mae’r ymgynghoriad a’r ffurflen adborth ar gael oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.