Diwedd yr ymgynghoriad: 09/04/10
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu dogfen ddrafft i ddangos sut y gall mudiadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru gyfrannu at yr ymgyrch i annog pobl i fod yn egnïol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i gael sylwadau’r mudiadau a’r grwpiau proffesiynol a enwir yn y ddogfen i sicrhau eu bod yn cydnabod ehangder y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes hwn.
Mae’r ddogfen ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.