Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
    » Ymgynghoriadau
    Adroddiadau ar Ymatebion i Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Ymgynghoriadau »Ymgynghoriadau
Ymgynghoriadau
Yr ydych yn Edrych ar: [CurrentDocuments]
Yn Ymwneud Â: I Gyd

Y mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am ymgynghoriadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Ymchwiliad i ‘hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’, 23/07/10 [C]
Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, archwilio pa mor wasgaredig yw lleoliadau yn ddaearyddol, y gweithgareddau a gynhelir yn y canolfannau hynny, a materion yn ymwneud â mynediad ac arian. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 24/09/10
Ymchwiliad Pwyllgor: Darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed, 21/07/10 [C]
Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wedi lansio ymchwiliad a fydd yn edrych yn fanwl ar brofiadau pobl ifanc sy’n agored i niwed, yn arbennig y rheini sy’n byw’n annibynnol, ac sy’n dilyn rhaglenni sy’n seiliedig ar waith. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 03/09/10
Ymgynghoriad ar Ganllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2010 a Chanllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14, 21/07/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â Chanllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2010 a Chanllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 14/09/10
Dysgu i blant a phobl ifanc mewn dalfeydd pobl ifanc yng Nghymru - canllawiau statudol, 19/07/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio safbwyntiau am y ddeddfwriaeth newydd Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, adran 48 – 52. Mae’n ymwneud ag addysgu a hyfforddi plant a phobl ifanc o Gymru yn y ddalfa. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 15/10/2010
Ymchwiliad y Pwyllgor i mewn i’r Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru), 14/07/10 [C]
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 ar hyn o bryd yn ystyried Mesur arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru), ac mae’n gwahodd barn oddi wrth aelodau’r cyhoedd a grwpiau sydd â buddiant. Diwedd yr ymchwiliad: 03/09/10
Ymestyn cymhwysedd i blant o dan 3 oed sydd â chyflyrau meddygol penodol a phobl sydd ag anableddau difrifol yn y ddwy fraich, 08/07/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymofyn barn ynglŷn â dau gynigiad cynnar sy’n amcanu at ymestyn y Cynllun Bathodyn Glas. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 30/09/10
Ymgynghoriad ynglŷn â Gosod Plentyn Dramor, 06/07/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â chanllawiau statudol drafft fydd yn cefnogi awdurdod lleol sy’n bwriadu gosod plentyn sy’n ddarostyngedig i orchymyn gofal interim neu orchymyn gofal terfynol gyda pherthnasau, neu bersonau sy’n gysylltiedig yn agos, dramor sy’n cael eu hystyried fel mabwysiadwyr dichonol, ond ble nad oes yna benderfyniad wedi’i wneud gan yr awdurdod i osod y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu. Diwedd yr ymgynghoriad: 02/09/10
Adolygiad Cyfiawnder Teuluol: Galwad am Dystiolaeth, 01/07/10 [C]
Mae Panel yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol wedi lansio Galwad am Dystiolaeth.
Ymgynghoriad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), 28/06/10 [C]
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Diwedd yr ymgynghoriad: 27/08/10
Diweddariad i gymryd lle Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, 18/06/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynigon i ddiweddaru Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 10/09/10
Ymchwiliad i aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd, 15/06/10 [C/Ll/A]
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal ymchwiliad i aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd, ac i weld pa mor dda y mae hyn ar hyn o bryd yn cael sylw gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’r Ymchwiliad yn dirwyn i ben: 10fed o Fedi, 2010.
Ymgynghoriad ar Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd, 14/06/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymgynghori ar welliannau arfaethedig i’r rheoliadau presennol sy’n rheoli gofal plant i blant o dan 8 mlwydd oed. Diwedd yr ymgynghoriad: 06/09/10
Ymgynghoriad ynglŷn â strategaeth hawliau plant yr UE, 11/06/10 [C/Ll/GI/A]
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth hawliau plant newydd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Diogelu plant a phobl ifanc rhag camfanteisio rhywiol, 08/06/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â chanllaw a gynlluniwyd i gynorthwyo ymarferwyr i atal camfanteisio ar blant yn rhywiol, diogelu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu sy’n cael eu cam-drin drwy gamfanteisio rhywiol, a tharfu ar ac erlyn y sawl sy’n cyflawni’r math hwn o gamdriniaeth. Diwedd yr ymgynghori: 31/08/10
Ymgynghoriad ar Ddosbarthu Arian y Loteri Genedlaethol, 21/05/10 [C]
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd sylwadau ar y Gorchymyn drafft i newid y cyfrannau sy’n cael eu rhoi i achosion da’r Loteri Genedlaethol, sef y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth a gwariant elusennol, iechyd, addysg a’r amgylchedd. Diwedd yr ymgynghoriad: 21/08/10
Strategaeth Tlodi Plant i Gymru a Chynllun Cyflenwi, 12/05/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru. Diwedd yr ymgynghori: 12/08/10
Dewiswch Faes Pwnc:
Pob Pwnc
Addysg
Anabledd
Atal Damweiniau Plant
Blynyddoedd Cynnar
Bwlio
Cydraddoldeb
Cyffredinol
Cyfranogi
Datblygu Cymunedol
Defnyddio Sylweddau
Diogelu Plant
Gofal Cymdeithasol
Gofal plant
Gofalwyr Ieuainc
Hamdden a Chwarae
Hawliau Plant
Iechyd
Ieuenctid
Mabwysiadu
Mewnfudo
Plant Sy’n Derbyn Gofal
Teuluoedd a Magu Plant
Tlodi
Trosedd a Chyfiawnder
Y Cyfryngau
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313