Diwedd yr ymgynghoriad: 21/09/09
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’u cynllun gweithredu strategol i roi sylw i drais yn erbyn merched.
Nod y cynllun gweithredu strategol yw diweddaru’r Strategaeth Cam-drin Domestig ar gyfer Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd yn 2005.
Y mae’r cynllun gweithredu strategol newydd yn cydnabod mai merched yn bennaf oll yw dioddefwyr trais yn y cartref, ac y mae’n ymateb i hyn drwy osod mwy o bwyslais ar weithredoedd sy’n rhoi sylw i drais yn erbyn merched yn fwy penodol. Y mae’r cynllun yn mynd i’r afael â materion, megis puteindra, ymosodiadau rhywiol a masnachu mewn pobl, yn ogystal â sicrhau bod merched yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus.
Y mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.