Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
    » Ymgynghoriadau
    Adroddiadau ar Ymatebion i Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Ymgynghoriadau »Ymgynghoriadau
Ymgynghoriadau
Yr ydych yn Edrych ar: [CurrentDocuments]
Yn Ymwneud Â: I Gyd

Y mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am ymgynghoriadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Ymgynghoriad ynglŷn â Rheoliadau Trefniadau i Ymweld â Phlant sy’n Cael eu Lletya 2010 a Chanllawiau Statudol, 19/03/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymofyn barn ynglŷn â rheoliadau drafft i’w gwneud o dan Adran 86A Deddf Plant 1989 a chanllawiau statudol, i gryfhau trefniadau ar gyfer plant mewn lleoliadau preswyl dros yr hirdymor nad ydynt yn derbyn gofal. Diwedd yr ymgynghoriad: 19/06/10
Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), 17/03/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’r Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Diwedd yr ymgynghoriad: 07/05/10
Diwygio’r system crwneriaid, 11/03/10 [C]
Mae hwn yn ymgynghoriad sy’n ymofyn barn ynglŷn â manylion diwygio’r system crwneriaid yng Nghymru a Lloegr. Diwedd yr ymgynghoriad: 01/07/10
Ymgynghori â defnyddwyr ystadegau plant sy’n derbyn gofal 2010, 01/03/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn i chi roi eich barn mewn perthynas ag ystadegau Plant sy’n Derbyn Gofal, gan gynnwys y datganiad ystadegol "Prosesau Mabwysiadu, Canlyniadau a Lleoliadau ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal gan Awdurdodau Lleol", a datganiadau a thablau ar-lein eraill perthnasol. Diwedd y cyfnod ymgynghori: 24/05/10
Ymchwiliad Pwyllgor i’r Byrddau Lleol Diogelu Plant, 25/02/10 [C]
Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i edrych pa mor effeithiol yw Byrddau Lleol Diogelu Plant. Diwedd yr ymgynghoriad: 09/04/10
Rheoliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) (Cymru) 2010, 19/02/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) (Cymru) 2010. Diwedd yr ymgynghoriad: 16/04/10
Ymgynghoriad ynglŷn â hysbysiadau i’w hanfon gan y Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted) at awdurdodau lleol ynglŷn â darparwyr gofal cymdeithasol i blant, 15/02/10 [C/Ll]
Mae hwn yn ymgynghoriad ynglŷn â’r wybodaeth y mae’n rhaid i’r Swyddfa Safonau mewn Addysg ei rhoi i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr pan fyddant yn cymryd camau penodol yn erbyn darparwyr cartrefi plant, canolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau maethu, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu. Diwedd yr ymgynghoriad: 10/05/10
Newid Bywydau – Strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Celfyddydau, 15/03/10 [C]
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’i strategaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a’r celfyddydau. Diwedd yr ymgynghoriad: 12/04/10
Beichiogrwydd a ffactorau cymdeithasol cymhleth: ymgynghoriad canllaw, 15/02/10 [C/Ll/GI]
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn ymgynghori ynglŷn â chanllaw ymarfer clinigol ar feichiogrwydd a ffactorau cymdeithasol cymhleth. Diwedd yr ymgynghoriad: 12/04/10
Plant sy’n derbyn gofal: ymgynghoriad ar y canllaw drafft, 15/02/10 [C/Ll]
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn ymgynghori ynglŷn â chanllaw ar wella iechyd a lles corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Diwedd yr ymgynghoriad: 14/04/10
Ymgynghoriad: Rheoliadau Cymhorthdal Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cyfweliadau sy’n Canolbwyntio ar Waith, Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith, ac yn y blaen) (Rhieni Unigol a Chymheiriaid) 2010, 12/02/10 [C/Ll/A]
Mae’r ymgynghoriad hwn, ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ymofyn barn ynglŷn â chynigion ar gyfer rhaglen fraenaru. Diwedd yr ymgynghoriad: 29/03/10
Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal i Hygyrchedd Gorsafoedd Rheilffordd, 11/02/10 [C]
Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Diwedd yr ymgynghoriad: 01/04/10
Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan Drafft, 28/1/2010 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’r llwybr gordewdra Cymru gyfan drafft hwn ar gyfer ymgynghori. Mae wedi’i gynhyrchu yn dilyn tystiolaeth sy’n dangos bod y ganran o oedolion a phlant nad ydynt yn cynnal pwysau corff iach yn cynyddu. Mae’r ymgynghori’n dirwyn i ben: 28ain o Ebrill, 2010
Creu Cymru egnïol - Ymgynghoriad ar y ddogfen rolau a chyfrifoldebau, 18/01/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu dogfen ddrafft i ddangos sut y gall mudiadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru gyfrannu at yr ymgyrch i annog pobl i fod yn egnïol. Diwedd yr ymgynghoriad: 09/04/10
Ymgynghoriad ynghylch Gweithio i Wella – ffordd well o ymdrin â phryderon am y gwasanaethau iechyd, 11/01/10 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori am y ffordd y mae sefydliadau iechyd yn ymdrin â phryderon pobl am y gwasanaeth iechyd.
Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid 11-25 a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr 14-19, 11/12/09 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar Ganllawiau Statudol ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr i bobl ifanc 14-19 oed.
Dewiswch Faes Pwnc:
Pob Pwnc
Addysg
Anabledd
Atal Damweiniau Plant
Blynyddoedd Cynnar
Bwlio
Cydraddoldeb
Cyffredinol
Cyfranogi
Datblygu Cymunedol
Defnyddio Sylweddau
Diogelu Plant
Gofal Cymdeithasol
Gofal plant
Gofalwyr Ieuainc
Hamdden a Chwarae
Hawliau Plant
Iechyd
Ieuenctid
Mabwysiadu
Mewnfudo
Plant Sy’n Derbyn Gofal
Teuluoedd a Magu Plant
Tlodi
Trosedd a Chyfiawnder
Y Cyfryngau
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313