Y mae Cyngor Gofal Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion a dderbyniodd yn ystod yr ymgynghori a wnaeth ynglŷn â chynnwys defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr yn ei waith. Y mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar negeseuon allweddol ynglŷn â’r egwyddorion a’r safonau a pha ffordd yw’r orau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr; negeseuon o’r broses ymgynghori a’r ymagwedd bartneriaeth; a newidiadau y mae’r Cyngor Gofal yn bwriadu’u gwneud o ganlyniad i’r ymarfer ymgynghori.
Fe ellir llwytho’r adroddiad i lawr oddi ar wefan Cyngor Gofal Cymru.