Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’i hymateb i ymgynghoriad a gynhaliodd yn gynharach eleni parthed cadw a chael gwared â data oddi ar y Gronfa Ddata DNA Genedlaethol.
Mae ymateb y Swyddfa Gartref yn cynnwys cynigion i gael gwared â phroffiliau pobl ifanc a arestiwyd ond nas cyhuddwyd ac nas collfarnwyd ar ôl chwe blynedd ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, ac ar ôl tair blynedd ar gyfer pobl ifanc eraill.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.