Yn dilyn y refferendwm ynghylch pwerau i ddeddfu ym mis Mawrth 2011, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn gallu gwneud deddfwriaeth ar ffurf deddfau ar y mwyafrif o faterion yn yr 20 maes sydd wedi eu datganoli iddo, sef:
1. Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygiad gwledig 2. Tai3. Henebion ac adeiladau hanesyddol4. Llywodraeth leol5. Diwylliant6. Cynulliad Cenedlaethol Cymru7. Datblygiad economaidd8. Gweinyddiaeth gyhoeddus9. Addysg a hyfforddiant10. Lles cymdeithasol11. Yr amgylchedd12. Chwaraeon a hamdden13. Gwasanaethau tac achub a hyrwyddo diogelwch tân14. Twristiaeth15. Bwyd16. Cynllunio gwlad a thref17. Iechyd a gwasanaethau iechyd18. Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd19. Priffyrdd a thrafnidiaeth20. Yr iaith Gymraeg
Yn wahanol i’r system cyn refferendwm 2011 nid oes rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn yn benodol i Lywodraeth y DU am bwerau pan fydd yn dymuno deddfu yn y meysydd hyn.
Eithriadau
Fodd bynnag mae nifer o eithriadau o fewn y meysydd hyn nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau ynddynt i wneud deddfwriaeth. Gwelir rhestr lawn o’r rhain yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru , Ymhlith yr eithriadau sydd fwyaf perthnasol i blant a phobl ifanc, mae:
Nawdd cymdeithasol:
Addysg:
Diwylliant:
Iechyd:
Llywodraeth leol
Yr Iaith Gymraeg
Datblygiad economaidd