Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cynhadledd i archwilio’r ffordd orau o gefnogi plant ifanc anabl, 11/04/08 [C]
Cynhadledd i archwilio’r ffordd orau o gefnogi plant ifanc anabl, 11/04/08 [C]

Mae gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i gynhadledd i drafod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn achos plant anabl.

Mae’r blynyddoedd cynharaf ym mywyd y plentyn yn hollbwysig yn ei ddatblygiad. Pan mae gan blentyn anghenion ychwanegol, neu yn anabl, mae’n hanfodol fod hyn yn cael ei nodi’n gynnar fel bod ymyrraeth gynnar a strategaethau gymorth yn cael eu sefydlu ar gyfer y plentyn a’r teulu.  Bydd y gynhadledd hon, Cydweithio o’r Cychwyn, yn archwilio’r strategaethau hyn, y dulliau gorau o ddod a gwasanaethau i blant ifanc anabl ac i gefnogi’r teuluoedd.  Bydd y Gweinidog Plant, Jane Hutt, yn rhoi’r araith gyweirnod i’r gynhadledd a bydd nifer o weithdai yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol fydd yn rhannu eu profiadau o weithio gyda phlant anabl a’u rhieni.

Fe ddywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant: "Rhoi dechrau da mewn bywyd i bob plentyn yw’r cyntaf o saith amcan craidd allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant.  Drwy ymyrryd yn gynnar, drwy adnabyddiaeth gynnar o anableddau, fe allwn ni sicrhau bod gan bob plentyn yr un cyfleoedd, ni waeth beth fo’i anabledd.  Y mae darparu’r cymorth hwn yn hanfodol i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i gyrraedd eu potensial."

Dywedodd Cath Lewis, Swyddog Datblygu dros Anabledd gyda Plant yng Nghymru:  "Mae gan bob plentyn yr hawl i’r cychwyn gorau mewn bywyd ac y mae’n hanfodol fod ymyrraeth gynnar a chefnogaeth yn cael eu cynnig i’r plentyn anabl a’i deulu.  Bydd y gynhadledd hon yn adlewyrchu’r pwyntiau hyn yn ogystal ag anelu at sicrhau fod gan blant anabl a’u teuluoedd fynedfa i saith nod craidd Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru."

 

Nodiadau:

1.            Cynhelir Cydweithio o’r Cychwyn, Ymdopi gydag Effaith Anabledd yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghanolfan Gynhadledd y Brifysgol, Penylan, Caerdydd, ddydd Gwener, Ebrill 11, rhwng 9.30am a 4.00pm.  Y siaradwyr cyweirnod fydd:

  • Jane Hutt AC – Gweinidog Plant, Addysg, Addysg Gydol-oes a Sgiliau
  • Dr Kim Bevan – Ymgynghorydd Cefnogaeth Gynnar
  • Suzanne Jones – Rheolwraig Hyfforddi Blynyddoedd Cynnar, Scope
  • Sally Rees -  Gweithiwr Datblygu Cymru, Rhwydwaith Cyswllt Gofal Prydain

2.       Mae Ymgyrch Plant yn Cyfri Cymru yn anelu at sicrhau fod plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yn medru sicrhau’r hawliau sy’n haeddiannol iddynt er mwyn byw bywyd mor normal ag sy’n bosib.  Gwefan:  www.dcmw.org.uk

3.            Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig ym 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sef gweithwyr proffesiynol, crëwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, yn arbennig plant ieuanc, y rhai a effeithir gan ansefydlogrwydd teuluol, plant gydag anghenion arbennig a’r rhai sy’n dioddef tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu a dosbarthu gwybodaeth a hyrwyddo arfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygiad arfer, cyhoeddiadau, cynhadleddau, seminarau, hyfforddi, defnydd o lyfrgell eang a gwasanaeth gwybodaeth.  Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Am Wybodaeth Bellach Cysyllter â:

Lynne Hill, Plant yng Nghymru, Tel: 029 2034 2434, Symudol: 07721 568084, e-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Cath Lewis, Swyddog Datblygu, Anabledd, Plant yng Nghymru, Tel: 029 2034 2434, e-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cynhadledd i archwilio’r ffordd orau o gefnogi plant ifanc anabl, 11/04/08 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence