Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Adnodd Newydd i Gynorthwyo i Newid Agweddau tuag ar Daro, 12/03/08 [C]
Adnodd Newydd i Gynorthwyo i Newid Agweddau tuag ar Daro, 12/03/08 [C]

Y mae 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn lansio pecyn cymorth newydd i gynorthwyo i newid agweddau tuag at daro yn y Senedd yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2008.

Y mae'r Pecyn Cymorth Help wrth Law yn adnodd ar-lein sy'n darparu deunyddiau y gellir eu defnyddio i:

  • Cynyddu'r nifer o bobl sy'n cefnogi'n weithredol newid yn y gyfraith ynglŷn â tharo yn y Deyrnas Unedig;
  • Lleihau'r achosion o gosbi plant yn gorfforol;
  • Lleihau'r ganran o'r boblogaeth sy'n gweld cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol.

Y mae'r Pecyn Cymorth Help wrth Law yn darparu canllaw cynhwysfawr er mwyn edrych ar y materion sy'n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol.  Y mae'n cynnwys:

  • Adnoddau - megis taflenni, pecynnau rhianta a gwefannau sy'n ymdrin â materion cosbi corfforol.  Y mae pob un adnodd wedi'i raddio ar system 5-pwynt, yn ôl pa mor ddefnyddiol ydyw parthed y materion hyn.  Y mae'r wefan yn dweud wrthych sut i gyrchu pob un adnodd.
  • Gweithgareddau - cyfres o weithgareddau y gellir eu defnyddio mewn gwaith grŵp, cyflwyniadau, a gydag unigolion i ystyried cosbi corfforol.
  • Taflenni gwybodaeth - crynoadau byr o ffeithiau, ffigurau ac awgrymiadau arwyddocaol yn y gwaith o wahardd cosbi plant yn gorfforol.
  • Modiwlau - awgrymiadau ynglŷn â pha ddeunyddiau yw'r gorau i'w defnyddio ar gyfer amrywiol grwpiau, megis rhieni, plant, pobl ifanc, myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi.

Y mae'n ymddangos nad oes yna un rheswm unigol pam bod pobl yn newid eu meddwl ynglŷn â tharo, ac y mae'r pecyn cymorth yn cael ei hysbysu gan amryw o'r rhesymau mwyaf cyffredin a nodir.  Er enghraifft, y mae rhai pobl yn sylweddoli bod gan blant hawl i beidio â chael eu taro, yn union fel y mae gan oedolion, oherwydd bod plant yn bobl hefyd.  Y mae llawer o rieni'n rhoi'r gorau i 'daro' eu plentyn pan ddônt i ddeall bod taro plant yn aneffeithiol fel ffordd o'u cael hwynt i ymddwyn yn iawn.  Y mae'r pecyn cymorth hwn yn addo bod yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sy'n dymuno edrych ar y mater hwn yn fanylach mewn unrhyw gyd-destun, gwaith neu gartref.  

Fe ellir cyrchu'r pecyn cymorth yn www.helpathandtoolkit.info ac www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info o'r 13eg o Fawrth ac fe gaiff ei ddiweddaru i gadw'n gyfoes â newidiadau i'r gyfraith, ac i ymgorffori deunydd newydd.  Y mae yna "Llawlyfr Help wrth Law" hefyd wedi'i gyhoeddi fel arweinlyfr copi caled i gyflwyno'r pecyn cymorth.  Y mae'r pecyn cymorth a'r llawlyfr ill dau'n ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg.

Fe ddywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant: "Yr wyf yn falch iawn o gymeradwyo'r pecyn cymorth hwn, a fydd yr wyf yn hyderus yn cynorthwyo i newid agweddau ac ymddygiad tuag at gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru. 

Y mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu bod gan blant yr un hawl i beidio â chael eu taro ag sydd gan oedolion.  Yr ydym yn dymuno darparu'r gefnogaeth i rieni a gofalwyr y maent arnynt ei hangen i reoli ymddygiad eu plant heb droi at gosbi corfforol."

Fe ddywedodd Anne Crowley, Cadeirydd Grŵp Strategaeth 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!: "Y mae'r pecyn cymorth hwn yn tynnu ynghyd, mewn fformat hawdd ei ddefnyddio, yr adnoddau gorau yr ydym wedi'u canfod i gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth, hysbysu, ac addysgu ystod eang o gynulleidfaoedd.  Y mae'r pecyn cymorth yn cael ei oleuo gan ein cyd-brofiadau ac ymarfer a werthusir.  Yn ein gwaith gyda phlant, rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, aelodau'r cyhoedd, llunwyr polisi a gwleidyddion, yr ydym wedi canfod bod llawer o bobl sy'n cefnogi hawl rhieni neu ofalwyr i daro neu i 'slapio' eu plant mewn gwirionedd yn newid eu meddyliau pan gânt gyfle i ystyried y materion o dan sylw."

Nodiadau

1.         Fe ellir cyrchu'r "Pecyn Cymorth Help wrth Law" sydd ar y we yn www.helpathandtoolkit.info ac www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info   Fe ellir cael y "Llawlyfr Help wrth Law" oddi wrth 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: cau@childreninwales.org.uk                           

2.         Y mae'r Lansio'n digwydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar y 13eg o Fawrth rhwng 5.30 - 7.00 yr hwyr.  Fe fydd siaradwyr yn cynnwys Jane Hutt (y Gweinidog dros Blant) ac fe fydd yn cael ei gadeirio gan Greta Thomas, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yng Nghymru.  Fe fydd yna hefyd gyfle i gyfarfod ag Aelodau Cynulliad, aelodau Grŵp Llywio 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!, a chefnogwyr eraill yr ymgyrch.

3.         Y mae Ymgyrch 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn cael ei chynnal gan Plant yng Nghymru, y sefydliad ambarél dros sefydliadau plant yng Nghymru.  Nod 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yw:

  • Newid y gyfraith fel bod plant a phobl ifanc yn cael yr un amddiffyniad rhag cael eu taro ag sydd gan oedolion;
  • Ymgyrch addysg gyhoeddus ynglŷn â pham nad yw "taro" plant yn dderbyniol;
  • I rieni gael gwybodaeth a chyngor a chefnogaeth ymarferol ynglŷn â dewisiadau eraill heblaw "taro", a defnyddio ymagweddiad cadarnhaol tuag at fagu plant.

 Cysylltiadau

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 029 2034 2434, Ffôn Symudol: 07721 568090, E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Adnodd Newydd i Gynorthwyo i Newid Agweddau tuag ar Daro, 12/03/08 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence