Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »9/2/05: Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn ymateb i Strategaeth Tlodi Plant o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru
9/2/05: Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn ymateb i Strategaeth Tlodi Plant o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), a gydgysylltir gan Plant yng Nghymru, yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020. Fodd bynnag, yr ydym yn siomedig mai ond ychydig y mae’n ei gynnwys sy’n newydd. Y mae llawer o.r ddogfen yn ailadrodd strategaethau a pholisïau sy’n bodoli eisoes megis y rhai ar gyfer gofal plant a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), sydd wedi bod yn araf yn cael eu gweithredu. Y mae’n hanfodol bod y rhain yn cael targedau penodol, sef cerrig milltir ar gyfer mesur cyrhaeddiad, ac adnoddau digonol a gweithrediad a ffocws trawsadrannol er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru allu gwireddu.u dyheadau. Fe edrychwn ymlaen at glywed am y cynlluniau ar gyfer cadw golwg ar a gwerthuso cynnydd y strategaeth hon.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, Jayne Isaac (Swyddog Polisi Cyhoeddus, NCH Cymru): “Yr ydym yn croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer mentrau Blynyddoedd Cynnar megis Cychwyn Cadarn, Cyfnod Sylfaen, rhaglenni gofal plant a chwarae, gan fod gan y rhain ran anhepgor yn y gwaith o oresgyn tlodi ymysg plant. Y mae.r ymrwymiad i gael canolfan integredig ym mhob awdurdod lleol i.w groesawu ac yr ydym yn gobeithio y bydd Cynulliad Cymru yn adeiladu ar hyn fel bod y gwasanaethau hyn ar gael i blant sydd mewn tlodi, ble bynnag y maent yn byw.”

Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos eu hymrwymiad i.r gorchwyl o ddarparu cymorth sydd wedi’i dargedu mewn ffyrdd nad ydynt yn stigmateiddio. Er enghraifft, defnyddio ffreuturiau heb arian i leihau’r stigma o gael cinio ysgol am ddim. Y mae.n bwysig bod Awdurdodau Lleol unigol yn dangos eu hymrwymiad i.r cyfryw weithredoedd. Y mae llawer o blant bob blwyddyn yn gochel rhag hawlio.u ciniawau ysgol am ddim oherwydd bod arnynt ofn stigma ac ofn cael eu bwlio.

Fe ddywedodd Cydlynydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, Lucy Akhtar:

“Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadarnhau eu bod am ddileu tlodi ymysg plant, ond os ydynt am ireddu’u haddewid, fe fydd arnynt angen sicrhau bod y strategaeth hon yn derbyn laenoriaeth gan lywodraeth leol Cymru ar gyfer gweithredu. Fe ddylir gofyn i Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill ymrwymo i hyn ac fe ddylir rhoi adnoddau digonol iddynt i'w wneud yn realiti.”

Nodiadau i'r Golygydd

1. Fe wna Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi.u strategaeth tlodi plant, “Dyfodol Teg i'n Plant”, ar ddydd Mercher, y 9fed o Chwefror.
2. Am fwy o wybodaeth am dlodi ac iechyd, cysylltwch â Lucy Akhtar, Cydlynydd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Ffôn: 02920 342434 neu 07800 822624.
3. Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (a gydgysylltir gan Plant yng Nghymru) yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant, ac y mae Aelodau’u Grwp Llywio yn cynnwys Plant yng Nghymru, Barnardos Cymru, Achub y Plant Cymru, NCH Cymru, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cymunedau sy’n Gofalu, Fairbridge Cymru, Canolfannau Cynghori, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Y mae gennym hefyd nifer cynyddol o Aelodau Cefnogol sy’n cefnogi’n gweledigaeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Fe ddaw’r aelodau hyn o drawstoriad eang o sefydliadau gwirfoddol a statudol.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313