Cynhadledd: 30 Tachwedd – 2 Rhagfyr
Tlodi Plant yn Ewrop:
Arbenigwyr plant Ewrop yn cwrdd yng Nghaerdydd
Mae pobl ifanc o bob rhan o Ewrop yn cymryd rhan hefyd ac yn cael cyfle i rannu eu barn a’u profiadau â’i gilydd ac â gweithwyr proffesiynol
Bydd arbenigwyr plant, cynrychiolwyr sefydliadau Ewropeaidd a phobl ifanc o bob rhan o Ewrop yn cwrdd yng Nghaerdydd ar ddiwedd y mis i drafod mynd i’r afael â thlodi plant. Daw’r cynrychiolwyr ynghyd mewn cynhadledd a drefnir gan y sefydliad Ewropeaidd Eurochild i drafod sut y gall dulliau gwahanol o gefnogi teuluoedd helpu i fynd i’r afael â phroblemau tlodi plant.
Esboniodd Catriona Williams, Prif Weithredydd Plant yng Nghymru: "Mae’r gynhadledd hon yn cael ei chynnal ar adeg pan fo teuluoedd ledled Ewrop yn dioddef effaith y problemau economaidd. Mae diweithdra’n cynyddu o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno mesurau llymder. Mae hyn yn golygu bod mwy a mwy o deuluoedd yn cael anawsterau, bod mwy o blant yn cael eu magu mewn tlodi.
Ledled Ewrop, pobl ifanc (rhwng 16 a 25 oed) yw’r ganran uchaf o bobl ddi-waith gan greu tlodi o ran uchelgais. Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle gwych i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant ledled yr Undeb Ewropeaidd ddod ynghyd a chyfnewid syniadau am sut mae cefnogi teuluoedd o dan yr amgylchiadau hyn."
Bydd cynhadledd Pobl Ifanc yn rhedeg ochr yn ochr â’r prif ddigwyddiad. Rhydd hon gyfle i bobl ifanc o wahanol wledydd Ewropeaidd ddod ynghyd i drafod eu pryderon a’u profiadau o dlodi plant a bwydo’r rhain i mewn i gynhadledd yr oedolion. Bydd yn cynnwys pobl ifanc o Gymru yn ogystal â rhai o Wlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, yr Almaen, Hwngari, Lithwania a Slofacia.
Nodiadau
1. Mae’r gynhadledd "Mynd i’r afael â Thlodi Plant trwy Gefnogi a Chryfhau Teuluoedd" yn cael ei threfnu gan Eurochild mewn cydweithrediad â Plant yng Nghymru. Bydd yn digwydd yng Ngwesty’r Mercure, Holland House, Caerdydd rhwng 30 Tachwedd - 2 Rhagfyr 2011.
Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys:
• Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru
• Radoslaw Mleczko, Is-ysgrifennydd Gwladol, Gweinyddiaeth Polisi Llafur a Chymdeithasol Gwlad Pwyl (Llywyddiaeth yr UE 2011)
• Elodie Fazi, y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant
• Maria Huerta, OECD – Gwneud yn Well dros Deuluoedd
• Regina Jensdottir, Cyngor Ewrop, Pennaeth Adran Polisïau Hawliau Plant – Canlyniadau’r Argymhelliad ar Rianta Positif
• Tijne Berg, NJI ac Eurochild - Rôl awdurdodau lleol wrth gefnogi rhianta mewn adeg o argyfwng
• Y Cyng. Doreen Huddart, Pwyllgor y Rhanbarthau
Mae modd gweld rhaglen lawn ar wefan Eurochild: http://www.eurochild.org
Cynhelir y Gynhadledd i Bobl Ifanc rhwng 27 Tachwedd ac 2 Rhagfyr.
2 Mae Eurochild yn rhwydwaith o gyrff ac unigolion sy’n gweithio yn Ewrop i wella ansawdd bywyd plant a phobl ifanc. Seilir ei waith ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ariennir Eurochild gan y Comisiwn Ewropeaidd o fewn rhaglen PROGRESS.
Mae Eurochild yn cynnal ymgyrch i ddileu tlodi plant ledled Ewrop: www.endchildpoverty.eu/ ac ym mis Ionawr 2011 cyhoeddodd Eurochild adroddiad "How the economic and financial crisis is affecting children & young people in Europe"
Mae Plant yng Nghymru yn un o aelodau sefydlu Eurochild.
3. Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer cyrff ac unigolion gwirfoddol, statudol a phroffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.childreninwales.org.uk. Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar agenda Cymru. Gweithiwn yn agos â’n haelodau sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisi a grwpiau defnyddwyr er mwyn gwella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ifanc, y sawl sy’n dioddef ansefydlogrwydd teuluol, plant ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.
4. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Nell Warner neu Richard Jones yn Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ
E-bost: nell.warner@childreninwales.org.uk
neu richard.jones@childreninwales.org.uk
Ffôn: 029 2034 2434