Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Mae Rhieni’n Cael eu Hannog i Gadw Plant yn Ddiogel wrth ymyl Dŵr, 21/06/10
Mae Rhieni’n Cael eu Hannog i Gadw Plant yn Ddiogel wrth ymyl Dŵr, 21/06/10

Fel mae Wythnos Diogelwch Plant yn dechrau, mae rhieni’n cael eu hannog i gadw’u plant yn ddiogel o amgylch dŵr. Fe all plant ifainc foddi mewn cyn lleied â 3 centimetr o ddŵr, ac fe all hyn ddigwydd yn gyflym iawn ac yn dawel iawn.  Fodd bynnag, mae modd ei atal yn hawdd, ac mae arbenigwyr diogelwch plant yn Plant yng Nghymru yn annog rhieni i oruchwylio plant bychain wrth ymyl pyllau, a sicrhau bod pyllau padlo bob amser yn cael eu gwagio cyn iddi nosi. 

Mae Karen McFarlane, Swyddog Diogelwch Plant yn Plant yng Nghymru, yn egluro: "Er y dylai plant yn bendant gael eu hannog i chwarae y tu allan yn y tywydd cynnes, a mwynhau gemau dŵr a phyllau padlo, mae ar rieni a gofalwyr angen bod yn ymwybodol o’r peryglon posibl y gallant fod.  Mae pyllau gerddi’n dod yn gynyddol gyffredin ond maent yn gyfrifol am fwy neu lai ddwy ran o dair o’r digwyddiadau boddi i blant o dan bum mlwydd oed.  Fe ddylai teuluoedd a gofalwyr sydd â phyllau gerddi, ble y bo’n bosibl, eu llenwi i mewn, neu fel arall sicrhau bod ganddynt grât neu giard gwarchod diogel sydd wedi’i ffitio’n gywir, a bod yna ffens o’u hamgylch fel na all plant eu cyrraedd.  Mae ar rieni angen bod yn neilltuol o wyliadwrus pan fyddant yn ymweld â chyfeillion neu berthnasau a allai fod â phyllau yn eu gardd."

"Mae pyllau padlo yn ffynhonnell wych o hwyl i blant, ond hyd yn oed gydag ychydig o ddŵr ynddynt, mae ar rieni a gofalwyr plant ifainc angen bod yn wyliadwrus.  Mae llawer o ddamweiniau sy’n digwydd gyda phyllau padlo yn digwydd pan fônt wedi’u gadael allan fwrw’r nos, ac mae plant yn rhedeg i mewn iddynt bore drannoeth.  Felly, hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, fe ddylid eu gwagio bob amser.  Yn ffodus, nid yw pob digwyddiad o foddi yn angheuol, ond fe allant eto i gyd achosi anafiadau difrifol ac anafiadau sy’n anablu, gan amrywio o niwed i’r ymennydd i broblemau i’r cefn.  Mae atal ond yn cymryd ychydig o funudau - gwagiwch eich pwll padlo ar ôl pob un defnydd ohono a goruchwyliwch blant ifainc o amgylch dŵr..."

Nodiadau

1.            1. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

2.            Fe gafodd Cardiau Adrodd am Ddiogelwch Plant, sy’n darparu cymhariaeth ryngwladol o fesurau diogelwch plant sy’n cael eu cymryd ledled gwahanol wledydd Ewrop, eu cyhoeddi fis Mai, 2009.  Fe raddiwyd Cymru yn neilltuol o isel o ran diogelwch dŵr a mesurau atal boddi. 

3.            Ym mis Chwefror, 2009, fe wnaeth Plant yng Nghymru gyhoeddi cynllun gweithredu, "Gweithio Tuag at Strategaeth Diogelwch Plant i Gymru", ynglŷn â lleihau damweiniau i blant yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â: Karen McFarlane yn Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Mae Rhieni’n Cael eu Hannog i Gadw Plant yn Ddiogel wrth ymyl Dŵr, 21/06/10

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence