Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Addewid i Gefnogi Plant Anabl, 29/04/10
Addewid i Gefnogi Plant Anabl, 29/04/10

Mae Plant yng Nghymru yn galw ar ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol yn etholiad cyffredinol y mis nesaf i lofnodi addewid i gefnogi plant anabl. Drwy’r addewid, mae ymgeiswyr yn cytuno i: 

  1. Cyfarfod gyda phlant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd i drafod materion allweddol sydd o bryder iddynt.
  2. Codi’r materion hyn sydd o bryder, a hyrwyddo hawliau ac adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl a theuluoedd o’m hetholaeth i yn y Senedd. 
  3. Ymweld â gwasanaethau lleol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd yn rheolaidd.
  4. Cefnogi mesurau i wella gwasanaethau ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd. 
  5. Canfod sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio yn fy etholaeth i wella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd. 

Fe ddatblygwyd yr addewid gan yr ymgyrch Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif yn Lloegr, ac fe’i dosbarthwyd yng Nghymru amryw o wythnosau yn ôl gan yr ymgyrch Mae Plant Anabl yn Cyfrif Cymru.  Ers hynny, mae yna amryw o ymgeiswyr yng Nghymru wedi llofnodi’r addewid ond nid yw llawer eto wedi gwneud.               

Fe ddywedodd Catherine Lewis, Swyddog Datblygu ar gyfer Plant Anabl yn Plant yng Nghymru, "’Rydym yn gofyn i ymgeiswyr ystyried yr hyn y gallant ei wneud fel darpar Aelod Seneddol dros blant anabl a’u teuluoedd yn eu hetholaeth.  Er bod rhai materion sy’n berthnasol i blant anabl, megis iechyd ac addysg, wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae materion eraill, megis y ddarpariaeth o fudd-daliadau lles a chyfraith cyflogaeth, yn dal yn gyfrifoldeb i San Steffan."

Fe ddywedodd Nicki Shercliff, person anabl ifanc sy’n cefnogi’r ymgyrch Mae Plant Anabl yn Cyfrif Cymru, "Mae hi’n bwysig iawn bod Aelodau Seneddol yn cyfarfod â phlant anabl a’u teuluoedd fel bod ganddynt, pan fyddant yn llunio deddfwriaeth, ddealltwriaeth o’u hanghenion."                     

Nodiadau                                                      

1. Mae rhagor o fanylion am yr addewid a rhestr o ymgeiswyr sydd wedi’i lofnodi ar gael ar y wefan Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif: http://www.ncb.org.uk/edcm/constituency_pledge.aspx

2. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

3. Mae’r ymgyrch Mae Plant Anabl yn Cyfrif Cymru yn credu y dylai plant a phobl ifanc anabl yng Nghymru gael:

  • Y wybodaeth gywir ar yr amser cywir
  • Gwir ddewis o addysg o ansawdd 
  • Y gwasanaethau iechyd y mae arnynt eu hangen i arwain bywyd arferol
  • Mynediad llawn at weithgareddau chwarae a hamdden
  • Cael llais gwirioneddol gyda chynllunio’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn
  • Mynediad llawn at gyfleusterau cymunedol
  • Digon o arian i fyw arno

Mae’r ymgyrch MPACC yn cael ei harwain gan 10 o sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl yng Nghymru.  Y rhain yw: Gweithredu dros Blant, Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, Cyswllt Teulu, Cerebra, Cronfa’r Teulu, Anabledd Dysgu Cymru, Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru, Mencap Cymru a Scope Cymru.  Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael ar y wefan: www.dcmw.org.uk

Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â:

Cath Lewis, Swyddog Datblygu

E-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk

Ffôn: 029 20342434

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Addewid i Gefnogi Plant Anabl, 29/04/10

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence