Mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant heddiw wedi cyhoeddi Siarter 5 Pwynt sy’n nodi pa gamau i’w cymryd i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant o ran incwm yng Nghymru. Mae’r Siarter, sydd wedi’i chyhoeddi o flaen yr Etholiad Cyffredinol ar y 6ed o Fai, 2010, yn amlinellu’r camau y mae ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ar ddod angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon mewn meysydd polisi y mae ganddi gyfrifoldeb drostynt.
Mae’r Siarter yn cael ei nodi o dan 5 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, yn galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i:
Yn 1999, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymiad hanesyddol i haneru tlodi plant erbyn 2010 a’i ddileu erbyn 2020. Er gwaethaf ymyriadau a wnaed yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyrraedd targed 2010, mae’r ffigurau diweddaraf am Gymru yn dangos bod 32% o blant yn byw ar aelwydydd incwm isel, gyda tharged 2010 yn debygol yn awr o gael ei fethu. Mae Deddf Tlodi Plant 2010, a basiwyd yn ddiweddar gan y Senedd, yn troi ymrwymiad 2020 yn ddeddf, ac fe fydd yn mynnu bod unrhyw Lywodraeth Brydeinig y dyfodol yn cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant yn gwerthuso’r cynnydd tuag at gyrraedd y targedau ac amlinellu gweithredoedd yn y dyfodol.
Fe ddywed Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru a Chadeirydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru:
"Er gwaethaf cyflawniad Llywodraeth gyfredol y Deyrnas Unedig gyda gostwng lefelau tlodi ymysg plant yn ystod rhan gyntaf y ddegawd olaf, a chyflwyno rhaglenni cyllidol i gynorthwyo teuluoedd incwm isel, mae lefelau tlodi ymysg plant yn cynyddu unwaith eto, ac mae angen gwneud llawer mwy. Mae llai o gyfleoedd am swyddi, codiadau mewn prisiau ynni a thanwydd, ochr yn ochr â chostau beunyddiol yn codi dros y misoedd diweddaraf wedi rhoi straen ychwanegol ar deuluoedd incwm isel ledled Cymru, ac ‘roedd llawer ohonynt eisoes yn ei chael hi’n anodd darparu ar gyfer eu plant. Mae’r dirwasgiad byd-eang presennol heb amheuaeth wedi gwaethygu problemau presennol, ac mae angen gweithredu ar frys yn awr i gynorthwyo teuluoedd ac i liniaru’r ergyd.
"‘Roedd pasio’r Ddeddf Tlodi Plant, a dderbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol, yn gam anferth i’r cyfeiriad cywir, ond mae ar blant angen cymorth a chefnogaeth yn 2010. Heddiw, ‘rydym yn annog pob darpar Aelod Seneddol Cymru i gefnogi’r Siarter hon ac i’r blaid lwyddiannus ar y 6ed o Fai fwrw ymlaen â’r gweithredoedd allweddol fel rhan o’r ymdrech hirdymor i ddileu tlodi ymysg plant unwaith ac am byth."
Nodiadau
1. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru, a gydlynir ac a reolir ar sail ddyddiol gan Plant yng Nghymru. Mae’i grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cwr o’r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith nifer cynyddol o aelodau sy’n gefnogwyr o drawstoriad eang o asiantaethau. (www.endchildpovertycymru.org.uk)
2. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phant a phobl ifanc yng Nghymru. www.plantyngnghymru.org.uk . Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth, 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Mae’n amcanu at hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. ‘Rydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywydau pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ifainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef oherwydd effeithiau tlodi ac amddifadedd. ‘Rydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a modd o gael at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth. Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
3. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â:
Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru,
E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk
Ffôn: 029 2034 2434,
Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd
neu Anita Myfanwy, Cydlynydd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant
E-bost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk
Ffôn: (01286) 677570