Mae Plant yng Nghymru’n croesawu’r Ddeddf Tlodi Plant, sydd wedi derbyn Cydsyniad y Frenhines.
Yn 1999, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymiad hanesyddol i haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 a’i ddileu erbyn 2020. Er gwaethaf ymyriadau a wnaed yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyrraedd targed 2010, mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod 32% o blant yn byw ar aelwydydd incwm isel.
Mae’r Ddeddf Tlodi Plant newydd yn troi ymrwymiad 2020 yn ddeddf, ac fe fydd yn mynnu bod unrhyw Lywodraeth Brydeinig y dyfodol yn cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant fydd yn gwerthuso’r cynnydd tuag at gyrraedd y targedau ac yn amlinellu gweithredoedd ar gyfer y dyfodol. Mae ymgyrchwyr ym maes tlodi ymysg plant, yn cynnwys Plant yng Nghymru, wedi croesawu’r ymrwymiad y mae hyn yn ei ddangos. I bob diben, mae’n golygu y bydd pa weinyddiaeth bynnag sydd mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol yn cael ei galw i gyfri’ am leihau cyfraddau tlodi ymysg plant.
Fe eglurodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru, "Er gwaethaf y tebygolrwydd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod yn fyr o gyrraedd eu targed interim o haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010, mae Plant yng Nghymru’n croesawu’r Ddeddf Tlodi Plant fel cam arwyddocaol i’r cyfeiriad cywir tuag at gyflawni’i haddewid i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020.
"Fodd bynnag, mae nifer y plant sy’n byw mewn teuluoedd islaw’r trothwy tlodi yn cynyddu, yn unol â’r codiad mewn lefelau diweithdra, yn enwedig ymysg pobl ifanc, fel a welir yng Nghymru. Mae ar deuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc angen cymorth a chefnogaeth uniongyrchol yn awr, ac ‘rydym yn cefnogi galwadau am fuddsoddiad i’w sianelu ar frys i gynorthwyo’r teuluoedd tlotaf ar adegau o’r angen mwyaf. Mae hyn yn cynnwys adfer y ‘rhwyd ddiogelwch’ i sicrhau bod budd-daliadau di-waith yn cynnig sicrwydd ar adegau o ddiweithdra, ac ar gyfer y sawl sydd mewn gwaith ar gyflog isel, mae cymorth ariannol ar gael drwy gredydau treth gwaith a chredydau treth plant. Fe ddylid fod sicrhau bod teuluoedd yn manteisio ar eu hawl llawn i’r cymorth hwn hefyd yn cael ei flaenoriaethu.
"Fe fydd Plant yng Nghymru, fel rhan o’r glymblaid Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, yn parhau i gadw golwg ar y cynnydd a wneir gan y Llywodraeth i gynorthwyo i sicrhau nad ydym yn colli cenhedlaeth arall i anweithgarwch economaidd, tlodi ac amddifadedd perthnasol."
1. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk. Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth. Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
2. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru, sy’n cael ei gydlynu a’i reoli ar sail ‘o ddydd i ddydd’ gan Plant yng Nghymru. Mae’i grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith nifer cynyddol o aelodau sy’n cefnogi, a ddaw o drawstoriad eang o asiantaethau.
3. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â:
Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru,
E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk
Ffôn: 029 2034 2434,
Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd