Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cefnogi Plant yn eu Blynyddoedd Cynharaf, 16/02/10 [C]
Cefnogi Plant yn eu Blynyddoedd Cynharaf, 16/02/10 [C]

Mae arbenigwyr plant a thua 100 o gynrychiolwyr yn cyfarfod yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf i drafod sut mae plant ifanc yn datblygu a pha ffordd yw’r orau i’w cefnogi hwy a’u rhieni.  Mae’r gynhadledd "Y Plentyn sy’n Datblygu 1-3" yn cael ei threfnu gan Plant yng Nghymru, ac fe fydd yn edrych ar ddatblygiad plant yn yr ystod oedran un i dair blwydd.  Fe fydd yn ystyried ystod o faterion, yn cynnwys ymlyniad ac anghenion emosiynol plant, a sut mae plant ifanc yn dysgu ieithoedd, gan ganolbwyntio’n neilltuol ar sut mae babanod yn dysgu mwy nag un iaith ar unwaith.  Fe fydd yna hefyd gyfle i edrych ar ffyrdd o gefnogi rhieni fel eu bod yn gallu darparu amgylchedd cadarnhaol i ddysgu yn y cartref ar gyfer plant ifanc yr oed hwn.

Fe eglurodd Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru:        

"Fe wyddom fod datblygiad cynnar babanod yn hanfodol o bwysig ar gyfer lles plant yn awr ac yn y dyfodol.  Rhwng un a thair blwydd oed, mae’r datblygiad meddyliol pwysicaf yn digwydd, gan gynorthwyo plant i ddysgu a chaffael y sgiliau allweddol sylfaenol mewn bywyd.  Erbyn yr amser mae’r rhan fwyaf o blant yn dair blwydd oed, maent wedi dysgu ymddiried yn eraill; gofyn am bethau; defnyddio’u sgiliau echddygol manwl; cerdded; dehongli a mynegi teimlad; empatheiddio, chwarae, siarad, caru, rhannu ac adnabod rhannau o’r amgylchedd o’u hamgylch. 

"Po fwyaf ‘rydym yn ei ddysgu am sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu, po fwyaf tebygol ‘rydym o roi cefnogaeth a gwybodaeth dda i bobl sy’n gweithio gyda phlant bach a’u teuluoedd." 

Nodiadau  

1. Fe gynhelir y gynhadledd, Y Plentyn sy’n Datblygu 1-3 Oed, ddydd Mawrth, y 23ain o Chwefror yng Ngwesty’r Barceló Angel, yng Nghaerdydd.  Mae siaradwyr yn cynnwys:

Siân Wyn Siencyn, Pennaeth Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar, Coleg Prifysgol y Drindod;

Viv Bird, Cyfarwyddwr Gweithredol, Booktrust;

Melanie P K Gill, Seicolegydd Fforensig Plant;

Kim Roberts, Arbenigwr Dysgu Cynnar yn y Cartref; Sefydliad y Teulu a Rhianta; a

Helen Tovey, Prif Ddarlithydd – Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Prifysgol Roehampton. 

2.   Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei amcanion yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uwch ar yr agenda Gymreig.  ‘Rydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella  bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ifanc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant y mae arnynt anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  ‘Rydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo arferion da mewn  gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

3.      Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch ag:

Eleri Griffiths (yn y Gymraeg neu’r Saesneg), Swyddog Datblygu, Plant yng Nghymru, e-bost:  eleri.griffiths@childreninwales.org.uk, Ffôn: 029 2034 2434

Neu Lucy Akhtar (yn y Saesneg), Swyddog Datblygu Rhianta, Plant yng Nghymru, e-bost: lucy.akhtar@childreninwales.org.uk  Ffôn: 029 2034 2434

Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd.  

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cefnogi Plant yn eu Blynyddoedd Cynharaf, 16/02/10 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence