Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Sicrhau gwell deilliannau i blant yng Nghymru, 19/11/09 [C]
Sicrhau gwell deilliannau i blant yng Nghymru, 19/11/09 [C]

Mae’r her o sicrhau bod hawliau a lles plant yn cael eu diwallu yn yr hinsawdd ariannol bresennol i’w thrafod yng Nghynhadledd Polisi Flynyddol Plant yng Nghymru, fydd yn cael ei chynnal ar y 24ain a’r 25ain o Dachwedd yng Nghasnewydd.

Fe fydd y gynhadledd, Hawliau, Dangosyddion a Chanlyniadau: Mesur lles plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer y sector plant o ran rhoi sylw i’r blaenoriaethau allweddol o wella lles a deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc, trechu tlodi ymysg plant ac allgáu cymdeithasol.

Fe fydd y digwyddiad Bord Gron mawr hwn yn tynnu ynghyd lunwyr polisi, cynllunwyr, rheolwyr ac ymarferwyr fydd yn clywed gan ystod eang o siaradwyr, yn cynnwys Eric Marlier, a wnaeth gadeirio Tasglu’r Undeb Ewropeaidd ar Dlodi Plant a Lles Plant a gynhyrchodd adroddiad dylanwadol, ac fe gafodd ei ddadansoddiad a’i argymhellion pendant eu cefnogi gan bob un o’r 27 o Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr, 2008.  Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed oddi wrth y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, a Richard Thurston o’r Is-Adran Ymchwil Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal a Tracey Lee, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Dinas Casnewydd.  Fe fydd siaradwyr yn rhannu’r farn gyfredol a gwybodaeth am ddangosyddion a deilliannau ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, fel ei gilydd. 

Ar yr ail ddiwrnod, mae Plant yng Nghymru yn falch o ddarparu llwyfan yn y gynhadledd ar gyfer Blwyddyn Ewropeaidd 2010 Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol, sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.  Fe fydd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol dros Gymru, yn amlinellu amcanion Blwyddyn Ewropeaidd 2010 ac yn ateb cwestiynau oddi wrth randdeiliaid sy’n mynychu’r gynhadledd.  

Fe fydd gweddill y diwrnod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n codi o Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo rhanddeiliaid i fesur a gwella lles plant yng Nghymru.  

Fe ddywedodd Eric Marlier, Cadeirydd Tasglu’r Undeb Ewropeaidd ar Dlodi Plant a Lles Plant, a Chydlynydd Gwyddonol Rhyngwladol yn Sefydliad Ymchwil CEPS/INSTEAD yn Lwcsembwrg: "Nod allweddol Blwyddyn Ewropeaidd 2010 ddylai gwneud gosod targedau yn nodwedd ganolog ac yn hynod weledol o ymrwymiad cymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd.  Fe ddylai’r holl Aelod-Wladwriaethau fabwysiadu amcanion cenedlaethol wedi’u meintoli er mwyn gwella lles plant.  Mae angen seilio’r targedau hyn ar ddiagnosis o achosion tlodi ac allgáu cymdeithasol plant yn y wlad."  Gyda golwg i gryfhau ymrwymiad gwledydd mewn perthynas â’r UE fel cyfanrwydd, fe awgrymodd - "deialog rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a gwledydd i drafod y targedau hyn ac i gytuno ar gytundebau cyflenwi cymdeithasol ffurfiol rhwng gwledydd unigol a’r Undeb Ewropeaidd."     

Fe ddywedodd y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt: "’Rydym wedi gwneud ymrwymiad, drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau y gall plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru feddu ar, a mwynhau’u hawliau.  Mae lles plant a phobl ifanc yn parhau yn un o’n blaenoriaethau uchaf ac yn rhan allweddol o’n cytundeb Cymru’n Un."

Fe ddywedodd y Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: "Mae Blwyddyn Ewropeaidd Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol 2010 yn darparu cyfle inni godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynd i’r afael â thlodi plant.  Mae gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc yng Nghymru ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad, ac mae cael sefydliadau eraill i gymryd rhan yn rhan allweddol o hyn, a dyna’r rheswm pam ein bod ni’n falch o weithio gyda Plant yng Nghymru a phartneriaid eraill ynglŷn â’r mater hwn.  Mae’r pwysigrwydd ‘rydym yn ei roi o ran mynd i’r afael â thlodi ymysg plant yn cael ei ddangos yn eglur gan y ffordd ‘rydym wedi defnyddio’n pwerau deddfwriaethol newydd i gyflwyno’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn gynharach y mis hwn, ac fe fydd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru i nodi ac i weithredu er mwyn cynorthwyo yn y nod o ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020."

Fe ddywedodd Richard Thurston, Yr Is-adran Ymchwil Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Mae cadw golwg ar les plant yn bwysig iawn.  Mae cyhoeddi adroddiadau, megis ein Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc, yn cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei phartneriaid a’r cyhoedd yn gyffredinol i weld pa mor dda mae plant Cymru yn gwneud ym mhob rhan o’u bywydau.  Heb y data, mae’n haws inni i gyd osgoi mynd i’r afael â phroblem tlodi a lles plant.  Ac fe all cael data ac ymchwil dibynadwy hefyd gynorthwyo i werthuso’n polisïau er mwyn deall sut y gallwn ni ddatblygu a darparu gwasanaethau mwy effeithiol.  Fel rhan o hynny, mae arnom angen clywed oddi wrth blant a phobl ifanc eu hunain ynglŷn â’r hyn maent yn ei gredu yw’r pethau pwysig i gael sylw, er mwyn gwybod beth maent yn ei feddwl o’r gwasanaethau maent yn eu derbyn a’u syniadau ar gyfer eu gwella hwy."

Fe ddywedodd Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru: "Mae’n hanfodol bod gan Gymru ddull o fesur pa un ai a yw lles plant y genedl yn gwella ai peidio, a hefyd sut mae Cymru yn gwneud mewn perthynas â gwledydd datblygedig eraill.  Mae gan blant yr hawl i gyrraedd eu llawn botensial, a dyletswydd llunwyr polisi yw sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio i gyflawni’r gorau.  Fe wyddom fod buddsoddi mewn plant ieuainc yn cynhyrchu enillion hirdymor sylweddol iawn i’r wlad drwyddi draw, yn ogystal ag i blant a phobl ifanc unigol.  Un o’r heriau cyfredol yw sicrhau bod dangosyddion priodol yn cael eu datblygu a’u bod yn cwmpasu lles emosiynol yn ogystal â lles corfforol."

 

Nodiadau i Olygyddion  

1. Fe fydd Hawliau, Dangosyddion a Chanlyniadau: Mesur Lles Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Eglwys Crist, Casnewydd ar y 24ain a’r 25ain o Dachwedd.  Fe ellir lawrlwytho rhaglenni ar gyfer y ddau ddiwrnod oddi ar wefan Plant yng Nghymru: http://www.childreninwales.org.uk/11840.html       

2. Mae Comisiwn yr UE a’r 27 o’r Aelod-Wladwriaethau i gyd wedi dynodi 2010 fel y Flwyddyn Ewropeaidd Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol.  Mae hyn yn ailddatgan ac yn cryfhau’r ymrwymiad i’r UE, a nodwyd yn Strategaeth Lisbon, a lansiwyd yn ôl ym mis Mawrth 2000, i wneud "effaith ddigamsyniol ar ddileu tlodi".  Nod y flwyddyn yw codi ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol ar gyfer datblygiad personol, cymdeithasol ac economaidd.  Fe fydd yn amcanu at roi llais i’r sawl sy’n profi tlodi ac allgáu cymdeithasol.   

3.   Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.  www.plantyngnghymru.org.uk.  Mae’n anelu at hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

4. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, a fyddech cystal â chysylltu â Catriona Williams, Prif Weithredwr, neu Sarah Thomas, Swyddog Datblygu at Plant yng Nghymru, ar 029 2034 2434 neu yn sarah.thomas@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313