Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    » Press Releases

Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases
Press Releases
Tudalen 1 | 2 | 3
Mae Rhieni’n Cael eu Hannog i Gadw Plant yn Ddiogel wrth ymyl Dŵr, 21/06/10
Fel mae Wythnos Diogelwch Plant yn dechrau, mae rhieni’n cael eu hannog i gadw’u plant yn ddiogel o amgylch dŵr.
Addewid i Gefnogi Plant Anabl, 29/04/10
Mae Plant yng Nghymru yn galw ar ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol yn etholiad cyffredinol y mis nesaf i lofnodi addewid i gefnogi plant anabl.
Siarter 5 Pwynt tuag at fynd i’r afael â Thlodi Plant yng Nghymru, 21/04/10 [C]
Mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant heddiw wedi cyhoeddi Siarter 5 Pwynt sy’n nodi pa gamau i’w cymryd i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant o ran incwm yng Nghymru.
Fe fydd Deddf newydd yn cynorthwyo yn y Frwydr yn erbyn Tlodi ymysg Plant, 26/03/10
Mae Plant yng Nghymru’n croesawu’r Ddeddf Tlodi Plant, sydd wedi derbyn Cydsyniad y Frenhines.
Cefnogi Plant yn eu Blynyddoedd Cynharaf, 16/02/10 [C]
Mae arbenigwyr plant a thua 100 o gynrychiolwyr yn cyfarfod yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf i drafod sut mae plant ifanc yn datblygu a pha ffordd yw’r orau i’w cefnogi hwy a’u rhieni.
Sicrhau gwell deilliannau i blant yng Nghymru, 19/11/09 [C]
Mae’r her o sicrhau bod hawliau a lles plant yn cael eu diwallu yn yr hinsawdd ariannol bresennol i’w thrafod yng Nghynhadledd Polisi Flynyddol Plant yng Nghymru, fydd yn cael ei chynnal ar y 24ain a’r 25ain o Dachwedd yng Nghasnewydd.
Adroddiad Newydd yn tynnu sylw at Dlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yng Nghymru Wledig, 16/10/09
Mae adroddiad a ryddhawyd yfory, yn tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi incwm isel, neu gartrefi sy'n derbyn budd-daliadau yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu heithrio o wasanaethau sydd ar gael i'w cyfoedion mewn ardaloedd trefol.
Cynhadledd: 24-25 Medi 2009: Lleihau Anafiadau Plentyndod
Mae arbenigwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon yn cyfarfod yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf i drafod sut i atal anafiadau i blant ac oedolion ieuainc. Fe fydd y gynhadledd ddeuddydd yn edrych ar ymyriadau effeithiol ar gyfer anafiadau, a achoswyd drwy ddamweiniau, hunan-niweidio a thrais. Fe fydd yn cwmpasu ystod o destunau a dulliau atal ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop ac yn rhyngwladol. Fe fydd y gynhadledd hefyd yn ystyried mesurau atal damweiniau ar gyfer anafiadau sy’n digwydd yn y cartref, ar y ffordd fawr a thrwy danau yn y cartref.
Marciwr Dyddiadur: Lansio Ystadegau sy'n datgelu pwysigrwydd Tadau mewn Cynhadledd Tadau, 9 Medi 2009, 18/08/09 [C]
Mae ymchwil newydd yn datgelu maint y defnydd o gyffuriau ac alcohol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn mynd rhagddo i ddangos y gall perthynas tad/plentyn gref weithredu fel ffactor diogelu rhag y gwaethaf o'r gormodeddau hyn.
Cymru’n Cael ei Graddio’n Wael o ran Atal Damweiniau yn ystod Plentyndod, 06/05/09 [C]
Y mae cymhariaeth ryngwladol o waith sy’n cael ei wneud i atal damweiniau yn ystod plentyndod yn dangos bod Cymru’n llusgo ar ôl y rhan fwyaf o’n cymheiriaid Ewropeaidd.
Y mae Ystadegau newydd yn datgelu pwysigrwydd Tadau, 24/03/09 [C]
Y mae ystadegau rhagarweiniol a gyhoeddwyd heddiw gan Plant yng Nghymru a Catch22 yn dangos bod plant sy’n mwynhau perthynas dda gyda’u tad yn llai tebygol o ymhél ag yfed o dan oed, cymryd cyffuriau neu ysmygu canabis.
Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 19/03/09 [C]
Fe fydd rhieni ac ymarferwyr yn canfod mwy am y rhaglen newydd sy’n gwella’r cymorth a ddarperir i deuluoedd plant ieuainc gydag anableddau mewn digwyddiad yn Llandrindod dydd Llun nesaf, 23 Mawrth 2009.
Lleihau Bwlio yn Ysgolion Cymru, 18/03/09 [C]
Y mae arbenigwyr addysg yn cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener i edrych ar ffyrdd o leihau bwlio yn Ysgolion Cymru. Y mae bwlio ac ymddygiad cymdeithasol sy’n dirywio yn cael lle’n rheolaidd ym mhenawdau’r newyddion, ac nid oes yna ond ychydig o bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc na fydd ganddynt brofiad o’r broblem. Fe fydd arbenigwyr sy’n cyfarfod yn y gynhadledd undydd yn edrych ar fentrau a all newid gwerthoedd ledled yr holl ysgol.
Pobl Ifanc i Rannu’u Barn ar Ymchwil
Y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael cyfle unigryw i ddysgu am ymchwil ac adborthi’u barn amdano mewn digwyddiad a drefnir i goffáu Comisiynydd Plant cyntaf Cymru, y diweddar Peter Clarke.
Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 02/02/09
Y mae yna raglen newydd fydd yn gwella’r gefnogaeth a ddarperir i deuluoedd plant ieuainc sydd ag anableddau i’w gweithredu ledled Cymru.
Ymchwil rhyngwladol ar flynyddoedd cynnar i archwilio cysylltiadau rhwng sgiliau a chymwysterau staff a thlodi ac anghydraddoldeb, 27/01/09
Poster ar eu hawliau meddygol a ddyluniwyd gan bobl ifanc
Y mae poster yn hysbysu pobl ifanc ynglŷn â'u hawliau pan fyddant yn ymweld â meddyg wedi'i lansio heddiw.
Cadw Plant yn Ddiogel Rhag Niwed, 10/12/08
Y mae Plant yng Nghymru’n croesawu dau adroddiad, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, sy’n amlygu’r golled enfawr i gymdeithas a achoswyd gan anafiadau yn ystod plentyndod.
Arwr Criced i Siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni, 16/10/08
Fe fydd Robert Croft, arwr criced a thad, yn siarad mewn cynhadledd i nodi Wythnos Rhieni ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ar y 23ain o Hydref.
5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain
Fe fydd teuluoedd o bob cwr o Gymru ymysg miloedd fydd yn gorymdeithio drwy Lundain y penwythnos hwn, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’i haddewid ynglŷn â dileu tlodi ymysg plant. Fe addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 ond y maent mewn gwir berygl o fethu â chyrraedd y targed hwn. Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, y mae’n neilltuol o bwysig bod y Llywodraeth yn gweithredu’n eofn yn awr i sicrhau gwell dyfodol i’n plant i gyd.
Tudalen 1 | 2 | 3
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313