Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Lleihau Bwlio yn Ysgolion Cymru, 18/03/09 [C]
Lleihau Bwlio yn Ysgolion Cymru, 18/03/09 [C]
Y mae arbenigwyr addysg yn cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener i edrych ar ffyrdd o leihau bwlio yn Ysgolion Cymru.  Y mae bwlio ac ymddygiad cymdeithasol sy’n dirywio yn cael lle’n rheolaidd ym mhenawdau’r newyddion, ac nid oes yna ond ychydig o bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc na fydd ganddynt brofiad o’r broblem.  Fe fydd arbenigwyr sy’n cyfarfod yn y gynhadledd undydd yn edrych ar fentrau a all newid gwerthoedd ledled yr holl ysgol. 

Y mae’r rhain yn cynnwys y "Fenter Hawliau, Parch a Chyfrifoldeb (RRR)", y dywedwyd ei bod wedi gwella ymddygiad cymaint mewn ysgolion yn Hampshire fel y cafodd ei disgrifio fel "chwyldro tawel." 

Fe ddywedodd Sarah Thomas: "Y mae ymagweddiad ysgol gyfan tuag at drwytho cyd-egwyddorion a chyd-werthoedd i strwythurau ac arferion ein hysgolion yn ffordd gydnabyddedig ymlaen – y mae Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau o eiddo UNICEF yn darparu modd llwyddiannus o gyflawni hyn.  Nod y gynhadledd yw cyflwyno gweithwyr proffesiynol i’r Wobr a chychwyn newid cadarnhaol."

1.      Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

2.      Fe fydd y gynhadledd, "Chwyldro Tawel", yn cael ei chynnal ar yr 20fed o Fawrth 2009, yng Ngwesty’r Park Thistle yng Nghaerdydd.  Y mae’r prif siaradwyr yn cynnwys:

Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Y Dr Emily Lovegrove, Arbenigwr mewn Technegau Gwrth-Fwlio
Edward Waller, Pennaeth Addysg, UNICEF y DU
Ian Massey, Arolygydd Sir dros Addysg Ryngddiwylliannol, Cyngor Sir Hampshire
Janet Hook, Arweinydd Tîm - Datblygu Rheoli Ymddygiad, Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Rochdale
Yr Athro Ken Reid, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Metropolitan Abertawe

3. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Sarah Thomas: Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sarah.thomas@childreninwales.org.uk

 

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Lleihau Bwlio yn Ysgolion Cymru, 18/03/09 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence