Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Pobl Ifanc i Rannu’u Barn ar Ymchwil
Pobl Ifanc i Rannu’u Barn ar Ymchwil

Y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael cyfle unigryw i ddysgu am ymchwil ac adborthi’u barn amdano mewn digwyddiad a drefnir i goffáu Comisiynydd Plant cyntaf Cymru, y diweddar Peter Clarke.

Fe fydd Gŵyl Cyfranogaeth y Plant a gynhelir yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn darparu ystod o arddangosfeydd rhyngweithiol i alluogi pobl ifanc i ddysgu mwy am ymchwil. Fe gaiff pawb sy’n mynychu gyfle i fwynhau’u hunain, dysgu mwy am ymgysylltu ag ymchwil ledled Cymru ac ennill syniadau i fynd yn ôl gyda hwy i’w hysgolion a’u sefydliadau.  Fe fydd ugain o arddangoswyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil a gynhaliwyd gyda neu am blant a phobl ifanc.  Fe fydd yr arddangosfeydd hyn yn hynod o ryngweithiol, gan ennyn cyfraniad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau lledaenu drwy gemau, cwisiau, sioeau sleid, fideos ac arddangosfeydd ffotograffig, yn ogystal â gweithgareddau gwneud lluniau a mapio.  Fe gaiff y plant a phobl ifanc hefyd y cyfle i droi’u llaw at ddylunio’u prosiectau ymchwil eu hunain.

Fe ddywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru,  "Y mae Plant yng Nghymru’n eithriadol o falch o fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad pwysig hwn sy’n nodi bywyd Comisiynydd Plant cyntaf Cymru.  Fe fydd y digwyddiad hwn nid yn unig yn gweld pobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu mwy am yr ymchwil sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, ond hefyd yn cael cyfle i gyfrannu ac i hysbysu’r gwaith pwysig hwn.  Y mae rhan a rôl weithredol plant mewn ymchwil yn rhywbeth y mae Plant yng Nghymru’n awyddus i’w annog a’i gefnogi, gyda’r digwyddiad hwn yn darparu cyfle da i arddangos cyfranogiad plant." 

Y mae Gŵyl Cyfranogaeth y Plant yn cael ei threfnu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Plant Cymru a Plant yng Nghymru er cof am Gomisiynydd Plant cyntaf Cymru, y diweddar Peter Clarke.

Nodiadau

1.      Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.


2.      Fe fydd ‘Ganddo’ Ni, Drosto’ Ni, Amdano’ Ni: Gŵyl Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc mewn Ymchwil’ yn ddigwyddiad undydd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar yr 11eg o Fawrth 2009 fel rhan o gyfres o weithgareddau’n coffáu Comisiynydd Plant cyntaf Cymru, Peter Clarke, a fu farw yn 2007.  Y mae’r yn cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Plant Cymru a Plant yng Nghymru.

3.      Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Pobl Ifanc i Rannu’u Barn ar Ymchwil

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence