Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Ymchwil rhyngwladol ar flynyddoedd cynnar i archwilio cysylltiadau rhwng sgiliau a chymwysterau staff a thlodi ac anghydraddoldeb, 27/01/09
Ymchwil rhyngwladol ar flynyddoedd cynnar i archwilio cysylltiadau rhwng sgiliau a chymwysterau staff a thlodi ac anghydraddoldeb, 27/01/09

Fe fydd rhaglen ymchwil newydd drwy Ewrop i gyd yn archwilio sut y gall gwella cymwysterau a sgiliau'r sawl sy'n gweithio gyda'n plant ieuengaf gynorthwyo i leihau tlodi a gwella cynhwysiant cymdeithasol.

Fe fydd yr ymchwil, sy'n digwydd dros y ddwy flynedd nesaf, yn cynhyrchu darlun eglur o'r lefelau cymwysterau a sgiliau mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar ledled y Deyrnas Unedig ac yn dangos sut y mae'r rhain yn ymwneud â lefelau tlodi a chynhwysiant cymdeithasol.  Fe fydd ymchwil cyffelyb yn cael ei wneud yn gydamserol yng Ngwlad Pŵyl, Norwy, yr Eidal, Slofenia, Ffrainc, Denmarc, Portiwgal, Sweden a Hwngari yn rhoi trosolwg ar ddatblygiadau trwy'r Undeb Ewropeaidd i gyd.  Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, fe fydd y data'n cyfrannu tuag at ddatblygu polisi ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â gweddill y Deyrnas Unedig.   

Asiantaeth sy'n bartner i Plant yng Nghymru yn yr Alban, sef Plant yn yr Alban, fydd yn arwain y rhaglen ymchwil.  Fe ddywedodd y prif weithredwr, Bronwen Cohen: "Fe all cael modd o gael at wasanaethau blynyddoedd cynnar gynorthwyo i fynd i'r afael â thlodi, a chynorthwyo pob plentyn, o wahanol gefndiroedd ac o wahanol alluoedd, i deimlo'n rhan o'u cymunedau.  Fodd bynnag, fe ellir cyflawni llawer mwy os yw'r sawl sy'n gweithio gyda'r plant wedi'u cymhwyso'n briodol ac yn meddu ar y medrau priodol.

"Y mae hon yn rhaglen ymchwil neilltuol o bwysig oherwydd y bydd yn canolbwyntio ar sgiliau a chymwysterau'r gweithlu, a'r cyfraniad y mae hyn yn ei wneud i wasanaethau cynhwysol ac i gefnogi  teuluoedd a chymunedau.  Fe fydd yn darparu darlun cyflawn o wasanaethau yn gyfan gwbl ledled Ewrop, ac felly'n ein galluogi ni i gymharu'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yn yr Alban gyda gwledydd eraill."

Fe ddywedodd Catriona Williams, prif weithredwr Plant yng Nghymru: "Y mae rhannu gwybodaeth ac ymarfer da yn rhyngwladol yn hynod o bwysig.  Y mae hwn yn gyfle gwerthfawr i Gymru werthuso a chymharu sgiliau a chyfleoedd gyrfa'r sawl sy'n cyflawni gwasanaethau blynyddoedd cynnar gyda'r hyn sy'n digwydd ledled Ewrop a defnyddio'r wybodaeth i gynorthwyo i wella cyfleoedd bywyd plant ieuainc ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb."

Fe ddywedodd Jana Hainsworth, Ysgrifennydd Cyffredinol y sefydliad rhwydweithio  Ewropeaidd, Eurochild: "Yr ydym yn hyrwyddo mwy o arweinyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ym maes gwasanaethau blynyddoedd cynnar.  Fe fydd y prosiect pwysig hwn yn dod â thystiolaeth gryfach, drwy'r Undeb Ewropeaidd i gyd ynglŷn ag ymarfer da o ran trefnu gwasanaethau a datblygu a hyfforddi gweithlu.  Yr ydym yn disgwyl dysgu mwy am sut y gall y gwasanaethau hyn effeithio ar hyrwyddo cynhwysiant a goresgyn tlodi." 

Fe ddywedodd Adam Ingram, Gweinidog yr Alban dros Blant a'r Blynyddoedd Cynnar: "Y mae datblygu sgiliau a chyfleoedd gyrfa'r sawl sy'n cyflawni gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn allweddol i'n cynorthwyo ni i roi'r dechreuad gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yn yr Alban.  Dyna pam bod ein Fframwaith  Blynyddoedd Cynnar -  a fydd yn cynorthwyo i wella cyfleoedd bywyd holl bobl ifanc yr Alban ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau - yn amlinellu sut y gallwn ni gynorthwyo i wella hyfforddiant a chyfleoedd yn y gweithlu blynyddoedd cynnar.  Fe fydd y rhaglen gyffrous hon yn ein cynorthwyo ni i rannu ymarfer da o ar draws Ewrop fel yr ydym yn symud hynny ymlaen a hyrwyddo rhagoriaeth yn y sector."

Y mae'r Deyrnas Unedig yn un o ond nifer fechan o wledydd sydd wedi pennu targed penodol ar gyfer lleihau tlodi.  Y mae darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i deuluoedd yn gynnar yn ffocws allweddol gyda chyflawni'r targed hwn.

NODIADAU I OLYGYDDION

* Y mae Working It Out yn rhaglen 12 mis (o fis Tachwedd 2008) a gefnogir gan Lywodraeth yr Alban i wahodd gweithlu'r sector plant, gyda chyflogwyr, cynllunwyr, prifysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ymuno mewn trafodaeth am ddatblygu gweithlu sector y plant yn y dyfodol.  Y mae'r rhaglen yn cwmpasu cyfres o bedair taflen newyddion, cynhadledd ryngwladol ym mis Mawrth 2009 a thri seminar yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddiwygio gweithlu.  Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.childreninscotland.org.uk/workforce

* Plant yng Nghymru yw'r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer y sawl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.  Eu hamcanion yw hyrwyddo buddiannau'r grwpiau hyn a gweithredu i ddiwallu'u hanghenion.  Y mae'r mudiad yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad anllywodraethol annibynnol. www.plantyngnghymru.org.uk

* Plant yn yr Alban yw'r asiantaeth genedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant a'u teuluoedd yn yr Alban.  Y maent yn bodoli i nodi a hyrwyddo buddiannau plant a'u teuluoedd ac i sicrhau bod polisïau, gwasanaethau a darpariaethau perthnasol o'r ansawdd gorau posibl ac yn gallu bodloni gofynion cymdeithas amrywiol.  Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.childreninscotland.org.uk

* Y mae'r rhaglen, Working for inclusion: the role of the early years workforce in addressing poverty and promoting social inclusion, a gyllidir gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn cael ei chyfarwyddo gan y Dr Bronwen Cohen, prif weithredwr Plant yn yr Alban, ac y mae'n cael ei rheoli fel prosiect gan Karen Mountney, pennaeth datblygu rhaglenni ac ymarfer yn Plant yn yr Alban.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Ymchwil rhyngwladol ar flynyddoedd cynnar i archwilio cysylltiadau rhwng sgiliau a chymwysterau staff a thlodi ac anghydraddoldeb, 27/01/09

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence