Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Poster ar eu hawliau meddygol a ddyluniwyd gan bobl ifanc
Poster ar eu hawliau meddygol a ddyluniwyd gan bobl ifanc

Y mae poster yn hysbysu pobl ifanc ynglŷn â'u hawliau pan fyddant yn ymweld â meddyg wedi'i lansio heddiw. Fe ddyluniwyd y poster gan grŵp o bobl ifanc rhwng 13 a 15 mlwydd oed, fel rhan o brosiect a gomisiynwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) mewn partneriaeth â Plant yng Nghymru a Biwro Cenedlaethol y Plant yn Lloegr

Fe wnaeth y bobl ifanc o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig gynhyrchu'r dyluniad terfynol gyda chymorth dyluniwr proffesiynol ar ôl adolygu negeseuon allweddol oddi wrth y ddogfen 0-18 years: guidance for all doctors o eiddo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.  Y mae'r canllaw hwnnw'n amlinellu cyfrifoldebau meddygon i weithredu bob amser er budd gorau plant a phobl ifanc, i wrando arnynt ac i'w cynnwys hwynt mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Fe ddywedodd John Jenkins, Cadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg y CMC a gynhyrchodd y 0-18 years: guidance for all doctors: 'Yr ydym wedi gweithio gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig i gynorthwyo i ledaenu'r neges bod pobl ifanc yn unigolion sydd â hawliau y dylid eu parchu.  Fe ddylai poster a ddyluniwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc gynorthwyo i egluro'r hyn y gallant ei ddisgwyl oddi wrth eu meddygon a sut y gallant eu cynorthwyo hwynt  i ddarparu gofal mewn ffordd sy'n berthnasol iddynt.'

Fe ddywedodd Sean O'Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru: 'Yr oedd hwn yn brosiect cyffrous yr oeddem yn awyddus iawn i'w gefnogi ac i fod yn rhan ohono. Y mae hawliau pobl ifanc mewn perthynas â'u gofal iechyd wedi bod yn fater a godwyd gan lawer o bobl ifanc Cymru, ac fe ddylai'r poster hwn, ochr yn ochr â'r canllaw presennol, gynorthwyo i gryfhau cysylltiadau rhwng meddygon a phobl ifanc.'

Y mae copïau o'r poster ar gael i'w lawrlwytho oddi ar www.gmc-uk.org/children neu a fyddech cystal â chysylltu â Plant yng Nghymru at info@childreninwales.org.uk.

Adnoddau Cysylltiol

:Poster GMC - Gwybyddwch eich hawliau yn y feddygfa
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Poster ar eu hawliau meddygol a ddyluniwyd gan bobl ifanc

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence