Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr

Datganiad i’r Wasg

29 Medi 2008

 

Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch
Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr 

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, heddiw yn rhoi anerchiad mewn cynhadledd plant ryngwladol fawr.  Y mae Fforwm Byd 2008 yn gynhadledd tri diwrnod sy’n dod ag arbenigwyr plant ynghyd o bob cwr o’r byd i ystyried y ffyrdd gorau o ymyrryd yn gynnar pan fydd plant yn cael problemau.  Fe fydd arbenigwyr sy’n mynychu’r gynhadledd yng Nghaerdydd yn trafod sut y maent yn ymyrryd yn gynnar yn eu gwledydd eu hunain mewn ystod o sefyllfaoedd.  Fe wnânt ystyried materion megis iechyd meddwl, cymorth i deuluoedd, addysg ac amddiffyn plant.  Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn ystyried dulliau a all rwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf.

Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan:  "Y mae’r gynhadledd glodfawr hon yn dod i Gymru am y tro cyntaf, ac felly fe fydd yn darparu cyfle gwych i gynrychiolwyr o bob cwr o’r byd weld drostynt eu hunain sut y mae Cymru’n gweithredu mentrau polisi yn llwyddiannus ym meysydd addysg a lles plant, megis Dechrau’n Deg ar gyfer y grŵp oedran 0-3, y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3-7 mlwydd oed a chyflwyno Comisiynydd Plant.  Fe fydd hefyd yn gyfle gwych i gynrychiolwyr rannu enghreifftiau o ymarfer da yn y meysydd hyn."

Fe ddywedodd Prif Weithredydd Plant yng Nghymru Catriona Williams: "It is a great honour to host this event in Wales. Many important initiatives to improve the lives of children across the world have emanated from previous WorldForums held in cities such as New Delhi, Vancouver, Capetown and Buenos Aires. For example the spread of children's helplines such as ChildLine across the world to countries such as India, Spain and Argentina was a direct result of the coming together of children's organisations through the International Forum for Child Welfare to share their practice. Whilst we in Wales have much to share with the rest of the world, this is a wonderful opportunity for workers here to gain knowledge and inspiration for the benefit of Welsh children and Young People."

Y mae Fforwm Byd 2008 yn cael ei gynnal ar y cyd gan Plant yng Nghymru a’r Fforwm Rhyngwladol dros Les Plant.

Yn ychwanegol at weithwyr proffesiynol, fe fydd y gynhadledd hefyd yn dod â phobl ifanc o Hwngari, Ynys Cyprus, yr Almaen a Chymru ynghyd am raglen chwe diwrnod ble y gallant amlygu’u profiadau hwy’u hunain.  

- Diwedd -

Nodiadau:

1.       Cynhelir Fforwm Byd 2008 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd rhwng 29 Medi – 1 Hydref 2008. Fe’i trefnir gan y Fforwm Rhyngwladol dros Les Plant (IFCW) a Plant yng Nghymru.  Y mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan: www.worldforum2008.org

2.       Bydd Rhaglen Gweithgareddau Pobl Ifanc yn cael ei chynnal rhwng dydd Sul 28 Medi a dydd Gwener 3 Hydref 2008.

3.       Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.plantynghymru.org.uk.

4.       Y mae’r Fforwm Rhyngwladol dros Les Plant yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n ymroddedig i hyrwyddo hawliau a lles plant ym mhob rhan o’r byd. www.ifcw.org.

5.       Medrir cael rhagor o wybodaeth am y datganiad hwn i’r wasg drwy gysylltu â Kate Richards, Ffôn: 07760 151222, neu Lucy Akhtar  Ffôn: 07986 164834

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence