Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru, 4/8/08
Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru, 4/8/08

Datganiad i’r Wasg

4 Awst 2008

 Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru

Gall plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddweud beth y byddent yn ei newid i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r elusen plant, Plant yng Nghymru, yn dosbarthu cardiau post yn yr Eisteddfod yn gofyn "Pe byddech chi’n rhedeg Cymru, pa un peth fyddech chi’n wneud i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc?" Bydd y cynigion buddugol yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 ac yn ymddangos yng nghylchgrawn Plant yng Nghymru.

Bydd Plant yng Nghymru hefyd yn dosbarthu holiadur i bobl ifanc sy’n galw yn stondin Sefydliadau Plant i ganfod faint a wyddant am eu hawliau.

Dywedodd Sarah Thomas, Swyddog Datblygu Plant yng Nghymru: "Mae cael cyfle i siarad gyda phlant a phobl ifanc yn yr Eisteddfod yn ein galluogi i gasglu sylwadau a phrofiadau o bob rhan o Gymru. Bydd yr holiadur yn rhoi ‘ciplun’ i ni o ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’u hawliau ac os teimlant eu bod yn medru eu defnyddio."

Nodiadau

1.     Mae Plant yng Nghymru yn noddi’r Stondin Mudiadau Plant, stondin rhif 1115 i 1118.

2.     Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Mae’n anelu i hyrwyddo diddordebau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda yng Nghymru. Gweithiwn yn agos gyda’n haelodau sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond yn arbennig blant ifanc, y rhai y mae ansefydlogrwydd teuluol yn effeithio arnynt, plant gydag anghenion arbennig neu anableddau a rhai’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Casglwn a lledaenwn wybodaeth am blant a hyrwyddo arfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i lyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth helaeth. Mae gan Blant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

I gael gwybodaeth bellach cysyllter â:

Ymholiadau yn Gymraeg:

Anita Myfanwy, Swyddog Datblygu Gogledd Cymru, Plant yng Nghymru,

Ffôn: 07760151222, E-bost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk

Ymholiadau yn Saesneg

Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi, Plant yng Nghymru,

Ffôn: 029 2034 2434/ 07721 568090, 

E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

                

 

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru, 4/8/08

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence